Tom Bradshaw (llun: CBDC)
Mae Tom Bradshaw wedi gadael gwersyll ymarfer Cymru ym Mhortiwgal a dychwelyd adref ar ôl anafu cyhyr yn ei goes.

Mae’n golygu bod gobeithion ymosodwr Walsall o gael ei ddewis yng ngharfan derfynol y crysau cochion ar gyfer Ewro 2016 mwy neu lai ar ben.

Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nos Fercher ar Twitter na fydd y chwaraewr 23 oed yn cymryd unrhyw ran bellach yn yr ymarferion oherwydd yr anaf.

Bydd hynny’n sicr yn siom i’r blaenwr, a enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ym mis Mawrth, oedd wedi gobeithio hawlio lle ar yr awyren i Ffrainc.

Maxwell wedi’i alw

Yn y cyfamser mae Cymru hefyd wedi galw golwr Preston Chris Maxwell i’r gwersyll ym Mhortiwgal.

Mae hynny oherwydd bod un o’r tri golwr presennol, Danny Ward, yn dal i gael trafferthion â’i ben-glin ar hyn o bryd.

Mae disgwyl o hyd fodd bynnag y bydd Ward, sydd yn chwarae i Lerpwl, yn holliach erbyn yr Ewros.

Dyw Maxwell heb ennill cap dros Gymru eto ond mae cyn-golwr Wrecsam, sydd yn 25 oed bellach, wedi chwarae dros y timau ieuenctid yn y gorffennol.