"Na, allai ddim cadarnhau taw fi yw'r canwr gwaethaf yn y garfan!"
Mae’r ysbryd clos o fewn carfan Cymru yn cael ei grybwyll yn aml fel un o’r prif resymau iddyn nhw lwyddo i gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc yr haf hwn.

Ac wrth i’r twrnament agosáu, mae golwg360 wedi bod yn cymryd cip ar beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i ddrysau caeedig y tîm cenedlaethol.

Amddiffynnwr Cymru Chris Gunter, sydd wedi ennill 66 cap dros ei wlad, fu’n ateb ein cwestiynau cyflym ni a datgelu ambell gyfrinach am rai o’i gyd-chwaraewyr.

Pwy yw’r olaf i fod yn barod yn y ‘stafell newid? Sut un yw Aaron Ramsey i rannu ‘stafell ag o? Pa mor dda yw Jonny Williams yn chware FIFA ar yr Xbox?

Yn ogystal â’i atebion i gwestiynau golwg360, gallwch hefyd ddarllen y cyfweliad llawn â Gunter – a chael eich gafael ar siart wal Cymraeg arbennig ar gyfer Ewro 2016 – yn y rhifyn diweddaraf o Golwg, 5 Mai.

Golwg360: Sut hwyl, Chris! Barod am y cwestiynau cyflym?

Chris Gunter: Wrth gwrs, ffwrdd â ni.

G360: ‘Dyn ni’n gwybod eich bod chi’n hoffi ambell singalong fel carfan, ond pwy yw’r canwr gorau?

CG: Mae hwn yn hawdd – Adam Matthews yn bendant, mae e’n dda iawn. Ond Owain Fôn Williams hefyd, pan ni ‘di mynd oddi cartref a chael canlyniad da mae e’n cael y gitâr mas, felly dylen ni ei grybwyll e.

G360: A’r gwaethaf?

CG: Fe wnâi edrych ar ôl pawb yn fanno a dweud mod i heb eu clywed nhw i gyd yn canu!


"Os wisgai'r tracwisg yma fydd Chris methu gweld beth sydd gen i oddi tano!"
G360: Beth am yr un sydd gyda’r chwaeth waethaf mewn dillad?

CG: Mae ‘na ambell un yn dianc fan hyn ‘fyd gan ein bod ni wastad mewn tracwisgoedd. Fe ddweda’i Jonny Williams.

G360: Unrhyw roomies gwael ti wedi gorfod rhannu ‘stafell â nhw dros y blynyddoedd?

CG: Dw i wedi bod yn lwcus a dweud y gwir, dw i ‘di bod gydag Aaron [Ramsey] a ‘dyn ni ‘di bod gyda’n gilydd ers blynyddoedd. Mae e’n roomie da, ac mae’n neis pan ni’n cyfarfod a dal lan eto.

G360: Pwy sy’n gyfrifol am y tiwns pan ‘dych chi yn y ‘stafell newid?

Fi neu James Collins. Ni’n rhoi cymysgedd go iawn o bethau ‘mlaen a dweud y gwir, mae gennym ni bobol wahanol yna sy’n mwynhau gwahanol fath o stwff. Ond y prif un sydd angen ei blesio yw Ashley Williams, achos os nad yw e’n mwynhau e mae ei glustffonau’n mynd syth ‘mlaen. Os chi’n plesio Ash, chi ‘di gwneud eich job!

G360: Ydi Zombie Nation yn un o’r caneuon sy’n plesio’r capten?

CG: Mae e wedi gofyn i ni ei chwarae ambell waith. Fel arfer fe wnawn ni gadw fe tan ar ôl y gêm. Os ni ‘di cael canlyniad da, mae hwnna fel arfer yn dod ‘mlaen.


"Yr unig reswm mai fi oedd yr olaf allan oedd mod i'n rhy brysur yn gwrando ar y tiwns yn y 'stafell newid!"
G360: Pwy yw’r olaf i fod yn barod yn y ‘stafell newid cyn i chi fynd allan ar y cae?

CG: Danny Gabbidon fydden i wedi dweud, roedd e wastad yn cymryd ei amser. Nawr, o ran bod yn hwyr neu gymryd sbel i fod yn barod, byddai’n rhaid dweud bod Ashley [Williams] yn tueddu i adael pethau tan y funud olaf.

G360: Oes gen ti neu un o’r chwaraewyr eraill unrhyw ofergoelion cyn gêm?

CG: Does dim llawer o bêl-droedwyr sydd heb rai, ond d’ych chi ddim o reidrwydd yn gwybod beth ydyn nhw. Yr unig un sydd gen i yw cyffwrdd y polyn cornel ar ddechrau pob hanner. Mae pêl-droedwyr yn griw od weithiau, falle na fydden nhw eisiau dweud yn gyhoeddus!

G360: Beth am eich amser hamdden – pwy yw’r gorau a’r gwaethaf ar FIFA?

CG: Does dim cymaint yn ei chwarae a dweud y gwir, ond mae ‘na grŵp bach ohonyn nhw, y rhai ieuengach – Jazz Richards, Ben Davies, Jonny Williams, Tom Lawrence. Mae e’n cael amser caled gen i nawr, ond dw i ddim yn meddwl bod Jonny Williams yn cael llawer o ganlyniadau da o beth dw i’n ei glywed!


"Wayne, dyma sut ti'n ei gwneud hi"
G360: Pwy yw’r jocar mwyaf yn y garfan?

CG: James Collins neu Joe Ledley o bell ffordd. Joe mwy na thebyg, jyst achos o’r dawnsio ‘na mae pawb yn gwybod amdano erbyn nawr!

G360: Yn olaf, ‘dan ni’n gwybod pwy sy’n ffansio’i hun fel y dawnsiwr gorau, ond beth am y gwaethaf?

CG: Jyst achos o’i daldra, bydden i’n dweud Wayne [Hennessey] – byddai Joe [Ledley] yn bendant yn rhoi’r ateb yna petaech chi’n gofyn iddo fe! Fydd e ddim rhy hapus gyda fi mae’n siŵr, ond mae’n rhaid i fi ddweud Wayne.

G360: Diolch am y sgwrs, Chris!

CG: Croeso.

Cyfweliad: Iolo Cheung