Dim ond tair gêm y mae Bale wedi chwarae dros Real Madrid ers dychwelyd o anaf i groth ei goes (llun: AP/Daniel Ochoa de Olza)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi gadael Gareth Bale allan o’i garfan ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin ar ddiwedd y mis.

Roedd Real Madrid wedi gofyn os allai’r chwaraewr gymryd hoe dros gyfnod y gemau rhyngwladol er mwyn parhau i weithio ar ei ffitrwydd, ac mae disgwyl i wraig Bale hefyd roi genedigaeth i’w hail blentyn ym Madrid yr wythnos nesaf.

Bydd chwaraewyr eraill fel Aaron Ramsey, James Collins, Paul Dummett, Dave Edwards ac Andy King hefyd yn methu’r ddwy gêm oherwydd anafiadau, wrth i Coleman baratoi ei dîm ar gyfer Ewro 2016 yn yr haf.

Ond mae Andrew Crofts, a chwaraeodd dros Gymru am y tro diwethaf yn 2012, yn un o’r chwaraewyr sydd yn dychwelyd i’r garfan.

Tri heb ennill cap

Mae Adam Matthews, Shaun Macdonald a David Cotterill hefyd yn dychwelyd i’r garfan o 26, yn ogystal â Lloyd Isgrove sydd wedi cael ei gynnwys yn y gorffennol ond eto i ennill ei gap cyntaf.

Yr unig ddau chwaraewr arall yn y garfan sydd heb ennill eu capiau cyntaf dros Gymru eto yw’r golwr Danny Ward a’r ymosodwr Tom Bradshaw.

Mae Cymru’n herio Gogledd Iwerddon gartref yn Stadiwm Dinas Caerdyd nos Iau 24 Mawrth, cyn teithio i’r Wcráin ar gyfer gornest yn Kiev ar 28 Mawrth.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Adam Henley, Chris Gunter, Adam Matthews, Jazz Richards, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor

Joe Allen, Joe Ledley, David Vaughan, Emyr Huws, Andrew Crofts, Shaun Macdonald, Jonathan Williams, David Cotterill

Hal Robson-Kanu, Lloyd Isgrove, George Williams, Tom Lawrence, Simon Church, Sam Vokes, Tom Bradshaw