Sam Vokes, seren yr wythnos (llun: Nick Potts/PA)
Ddim yn aml ‘da ni ar Cip ar y Cymry’n mentro i fyd tywyll ac anghyfarwydd pêl-droed canol wythnos, gan dueddu i sticio efo’r hen draddodiad o gloriannu gorchestion y Cymry bob bore Llun.

Ond roedd hi’n werth tiwnio fewn i Match Of The Day neithiwr wrth i un ar ôl y llall giwio fyny i ganfod cefn y rhwyd – ac ambell un gwneud hynny’n anfwriadol.

Fe ddechreuwn ni efo’r hymdinger yn Anfield, ble roedd Lerpwl yn croesawu Arsenal, gydag Aaron Ramsey yn dechrau i’r Gunners, a Joe Allen a Danny Ward ar y fainc i’r Cochion.

Cipiodd Ramsey gôl i ddod ag Arsenal yn gyfartal ar ôl i Firmino roi Lerpwl ar y blaen, cyn i Firmino ychwanegu ail ac yna Giroud sgorio dwy, gyda Ramsey’n creu un o’r rheiny, i roi Arsenal 3-2 ar y blaen.

Pwy ddaeth oddi ar y fainc fodd bynnag oedd y dewin bach barfog ei hun, ac yn y 90ain munud fe sleifiodd Allen i mewn i’r cwrt cosbi a tharo ergyd daclus i gornel y rhwyd i unioni’r sgôr ar gyfer ei gôl gyntaf o’r tymor.

Yn syfrdanol, nid fo oedd yr unig Gymro i sgorio gôl yn y munud olaf o ymyl y cwrt cosbi i achub gêm gyfartal o 3-3 i’w dîm.

Fe wnaeth Paul Dummett yr un peth yn yr ornest rhwng Newcastle a Man United, dim ond bod ei ergyd o’n fwy o roced na phas i gefn y rhwyd.

Un arall o’r Cymry roddodd y bêl yng nghefn y rhwyd – yn anffodus, i’w gôl ei hun – oedd Wayne Hennessey, wrth i’r golwr ollwng peniad hawdd rhwng ei goesau a dros y llinell i roi buddugoliaeth o 1-0 i Aston Villa yn erbyn Crystal Palace.

Mi allai Abertawe fod wedi gwneud gyda gôl annisgwyl gan Neil Taylor neu Ashley Williams, ond yn anffodus fe fydd y gêm rhwng Abertawe a Sunderland yn cael ei chofio fwy am yr amddiffyn sâl a dyfarnu salach wrth i’r Elyrch golli 4-2.

Fe chwaraeodd James Collins, Joe Ledley ac Andy King i’w clybiau yn yr Uwch Gynghrair hefyd yng nghanol wythnos, tra bod James Chester ar y fainc unwaith eto – ond gan mai clywed am ragor o goliau ‘da chi eisiau, fe symudwn ni ‘mlaen i’r Bencampwriaeth.

Y Bencampwriaeth

Fe sgoriodd Sam Vokes gôl wych i ddyblu mantais Burnley wrth iddyn nhw chwalu MK Dons o 5-0, gan guro tri dyn gyda rhediad cyn llithro’r bêl heibio i’r golwr.

Cipiodd Reading bwynt yn erbyn Derby ar ôl i Danny Williams benio croesiad Hal Robson-Kanu i’w gwneud hi’n 1-1, gyda Chris Gunter hefyd yn chwarae’r 90 munud llawn i’r Royals.

Creu gôl i unioni’r sgôr wnaeth David Vaughan hefyd wrth i’w gic rydd o ganfod pen Matt Mills i’w gwneud hi’n 1-1 rhwng Nottingham Forest a Birmingham.

Ond fe orffennodd noson Vaughan ar nodyn isel wrth iddo gael cerdyn coch am dacl uchel, er i hyd yn oed reolwr Birmingham gyfaddef ei fod ychydig yn hallt.

Fe greodd Dave Edwards a Jazz Richards gôl yr un i’w timau hwythau wrth i Wolves drechu Fulham 3-2, gyda George Williams yn cael ei gynnwys ar fainc y Cottagers.

Fe enillodd Huddersfield o 5-0 yn erbyn Charlton gydag Emyr Huws a Joel Lynch yn y tîm, ond fe gafodd Huws ei eilyddio ar ôl 54 munud yn dilyn tacl wael gan Morgan Fox.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe ddechreuodd Tom Lawrence i Blackburn, tra bod Wes Burns ac Andrew Crofts wedi dod ymlaen fel eilyddion i’w timau nhw, ac Adam Henley a Lewis Price ar y fainc.

Ond beth am i ni orffen y bonanza canol wythnos yma o Cip ar y Cymry efo gôl arall?

I Gynghrair Un y tro hwn, a llongyfarchiadau i Tom Bradshaw wrth i’r ymosodwr 23 oed sgorio ei 50fed gôl yng Nghynghrair Lloegr (mae ganddo hefyd ddwy i Aberystwyth), a’i 13eg y tymor hwn, i gipio pwynt i Walsall.

Seren yr wythnos – Sam Vokes. Gormod o ddewis, ond am gôl gan y blaenwr sydd yn fwy adnabyddus am ei daldra a’i gryfder na’i chwimder ar y bêl.

Siom yr wythnos – Wayne Hennessey. Camgymeriad prin gan y golwr, ac er y bydd yn siomedig fe ddylai gadw’i le yn nhîm Palace o gofio’i berfformiadau blaenorol.