Chris Coleman wedi ennill Hyfforddwr y Flwyddyn yng Nghwobrau Chwaraeon Cymru'r wythnos hon (llun: Tsafrif Abayou/PA)
Mae cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts wedi dweud wrth Golwg360 y dylai tîm Chris Coleman anelu at gyrraedd rownd yr wyth olaf yn Ewro 2016 y flwyddyn nesaf.

Ddydd Sadwrn fe Cymru’n darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Ffrainc wrth i’r timau fydd yn y gwahanol grwpiau gael eu dewis ar gyfer y gystadleuaeth.

Gan fod Cymru ymhlith y detholion isaf mae’n debygol y byddan nhw’n wynebu o leiaf un o’r cewri pêl-droed Ewropeaidd.

Ond fyddan nhw ddim yn wynebu unrhyw un o’r timau eraill o’r detholion isaf, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, yn eu grŵp.

‘Yno i gystadlu’

Cafodd Coleman ei anrhydeddu â gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2015 yr wythnos hon, gyda’r pêl-droedwyr hefyd yn cipio tlws Tîm y Flwyddyn.

Ac yn ôl Iwan Roberts, a gasglodd y wobr ar y noson ar ran Coleman, mae’r garfan mewn sefyllfa gref wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gystadleuaeth yr haf nesaf.

“Mae’r job mae o wedi’i wneud yn anhygoel,” meddai Iwan Roberts.

“Mae ganddo fo ffydd yn y chwaraewyr, mae o’n gwybod sut i’w cael nhw’n drefnus, maen nhw’n ofnadwy o ddisgybledig, [a] dim ond wedi ildio mewn tair o’r gemau yn yr ymgyrch.

“Yn mynd i Ffrainc, ‘da ni ddim jyst yn mynd yna i wneud y rhifau i fyny.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n mynd yna i fynd yn bellach yn y gystadleuaeth, i ddod allan o’r grŵp, a hwyrach mynd i’r rownd gogynderfynol.”

Iwan Roberts yn sgwrsio â Iolo Cheung am y gwobrau chwaraeon a gobeithio tîm Cymru:

Dewis y timau

Bydd 24 o dimau’n cystadlu yn Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf rhwng 10 Mehefin a 10 Gorffennaf, gyda’r chwe grŵp o bedwar tîm yn cael ei ddewis mewn seremoni ym Mharis ddydd Sadwrn, 12 Rhagfyr.

Mae’r timau eisoes wedi cael eu rhannu i bedwar gwahanol bot yn seiliedig ar ddetholion UEFA, gyda phob grŵp yn cynnwys un tîm o bob pot.

Mae’n golygu y bydd Cymru, sydd ym Mhot Pedwar, yn cael eu dewis mewn grŵp gyda thri thîm sydd yn uwch na nhw yn y detholion.

Bydd dau dîm uchaf pob grŵp, yn ogystal â phedwar o’r chwe thîm sydd yn gorffen yn drydydd, yn cyrraedd rownd yr 16 olaf.

Pot Un: Sbaen, Yr Almaen, Lloegr, Portiwgal, Gwlad Belg (+ Ffrainc, fel y tîm cartref)

Pot Dau: Yr Eidal, Rwsia, Y Swistir, Awstria, Croatia, Wcráin

Pot Tri: Gweriniaeth Tsiec, Sweden, Gwlad Pwyl, Rwmania, Slofacia, Hwngari

Pot Pedwar: Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad yr Ia, CYMRU, Albania, Gogledd Iwerddon