Mae banc yr UBS o’r Swistir wedi dweud eu bod yn “cydweithio” â swyddogion sydd yn ymchwilio i lygredd ariannol yn ymwneud â FIFA.

Dywedodd UBS yn eu hadroddiad chwarterol a gyhoeddwyd ar ddydd Mawrth bod awdurdodau wedi cysylltu â nhw ynglŷn â “chyfrifon oedd yn ymwneud â [FIFA] a chymdeithasau pêl-droed perthnasol eraill ac unigolion sydd yn gysylltiedig”.

Mae’r awdurdodau yn ymchwilio o hyd i lywydd y corff sydd yn gyfrifol am bêl-droed yn rhyngwladol, Sepp Blatter, yn ogystal â sawl un o swyddogion eraill FIFA.

Mae hynny eisoes wedi arwain at benderfyniad Blatter i gamu o’r neilltu a chynnal etholiadau’r flwyddyn nesaf i ddewis ei olynydd.

‘Llygredd’

Dywedodd twrnai cyffredinol y Swistir Michael Lauber ym mis Medi fod ganddo adroddiadau ar 121 o gyfrifon ble roedd amheuaeth o gysylltiadau â gwyngalchu arian.

Mae’r achos yn y Swistir ar hyn y bryd yn ymwneud â chamreolaeth droseddol o fewn FIFA a chyhuddiadau o lygredd yn y broses o ddyfarnu’r gwledydd fyddai’n cynnal Cwpan y Byd yn 2018 a 2022.

Mae achos ffederal yn yr UDA eisoes wedi canfod swyddogion pêl-droed a marchnata o fod yn euog o lwgrwobrwyo mewn cysylltiad â Chwpan y Byd a chystadlaethau cyfandirol Gogledd a De America.

UBS yw’r banc diweddaraf o’r Swistir, ar ôl Credit Suisse a Julius Baer, sydd wedi cydnabod eu bod nhw’n helpu swyddogion â’u hymchwiliadau.