Mae cyn-berchennog Clwb Pêl-droed Rangers yn yr Alban wedi cael ei gyhoeddi’n fethdalwr heddiw, ar ôl methu â chlirio dyled gwerth £20m.

Cafodd yr achos yn erbyn Craig Whyte ei ddwyn ar ôl iddo fethu â thalu’r arian yn ystod brwydr gyfreithiol â chwmni Ticketus.

Honnwyd bod Craig Whyte wedi cytuno i werthu gwerth tair blynedd o docynnau tymor Rangers i’r clwb am £25m, ac fe ddefnyddiodd rhan o’r arian hwnnw wedyn i brynu’r clwb ym mis Mai 2011.

Ond yn ôl Ticketus fydden nhw fyth wedi dod i gytundeb o’r fath â Whyte petai nhw’n gwybod ei fod wedi cael gwaharddiad o fod yn gyfarwyddwr yn 2000.

Fe fethodd Craig Whyte ag ymddangos yn y llys wrth iddyn nhw archwilio’r mater ar ddau achlysur, ar Fai 7 a Gorffennaf 16 eleni.

Ym mis Medi cafodd y gŵr 44 oed ei arestio yn ogystal â phrif weithredwr Rangers Charles Green ar amheuaeth o brynu’r clwb yn dwyllodrus yn 2012.