Jonathan Williams a charfan Cymru yn dathlu eu lle yn Ewro 2016 (llun: Adam Davy/PA)
Ar ôl y flwyddyn mae Jonathan Williams wedi’i gael fe allech chi faddau iddo petai o ddim mor sionc a siriol ac y mae’n arfer bod.

Ond er gwaethaf tymor hunllefus llynedd o ran anafiadau mae’r dewin bach penfelen mor hawddgar a phositif ei natur ag erioed wrth iddo sgwrsio â Golwg360.

Mae’r ffaith ei fod bellach yn ffit eto yn helpu, ond yn fwy na dim mae’r wên ar ei wyneb yn awgrymu fod ganddo mwy na gemau clwb rheolaidd yn unig i edrych ymlaen ato – y cyfle i fynd i Ewro 2016 gyda Chymru.

Y gêm rhwng Cymru ac Andorra yr wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i Jonny Williams ddechrau gêm o bêl-droed ers bron i flwyddyn, ac mae’n cyfaddef ei fod yn teimlo’n lwcus o fod wedi gallu bod yn rhan o’r dathliadau.

‘Erioed wedi teimlo mor isel’

Blwyddyn yn ôl roedd y chwaraewr sydd wedi cael y llysenw Joniesta am ei steil o chwarae yn rhan greiddiol o garfan Cymru, ac yn edrych ymlaen at gyfnod arall o chwarae yn gyson yn y Bencampwriaeth gydag Ipswich.

Ond yna fe gafodd ei gicio oddi ar y cae gan Fosnia yng ngêm Cymru ym mis Hydref y llynedd, cyn i dacl afiach gan Joel Ekstrand o Watford fis yn ddiweddarach olygu na fyddai’n chwarae eto tan fis Mawrth.

Mae’r amryw o anafiadau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu’i fod wedi methu bron y cyfan o ymgyrch lwyddiannus Cymru i gyrraedd Ewro 2016, ac mae’n cyfaddef bod hynny wedi bod yn ergyd fawr iddo.

“Dw i erioed wedi teimlo mor isel gydag anafiadau. Roedd hi’n anodd gwylio’r bechgyn yn gwneud mor dda, a jyst eistedd gartref,” meddai’r chwaraewr 22 oed.

“Roeddwn i’n eu methu nhw, nid jyst bod yn y tîm, ond bod o gwmpas y garfan, cael hwyl gyda nhw ac yn y blaen. Rydyn ni fel brodyr allan ar y cae, fe allwch chi weld hynny fel cefnogwyr, a staff.”

Gwerthfawrogiad y dorf


Jonathan Williams yn dathlu gôl gydag Aaron Ramsey ar ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban yn 2013 (llun: CBDC)
Fe enillodd Jonny Williams ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban yn 2013, gan ddod ymlaen fel eilydd yn lle Gareth Bale a helpu’r tîm i ddod nôl o gôl ar ei hôl hi i ennill y gêm.

Ers hynny mae’r chwaraewr canol cae wedi dod yn dipyn o ffefryn gyda chefnogwyr Cymru, ac roedd eu clywed nhw’n gweiddi ei enw yn y gêm ddiweddar yn erbyn Andorra er ei fod wedi bod allan o’r garfan ers blwyddyn yn brawf nad oedden nhw wedi anghofio amdano.

“Roedd e’n rhoi goosebumps i mi. Fel roeddwn i’n dod oddi ar y cae roedd y bois yn fy llongyfarch i, dweud pa mor braf oedd hi i fy ngweld i nôl,” meddai Joniesta.

“Roedd cael hynny gan y chwaraewyr, y staff ac yn enwedig y cefnogwyr – os oes gennych chi’r cefnogwyr ar eich ochr fe allwch chi gyflawni beth bynnag rydych chi eisiau, mae wir yn rhoi’r hyder i chi wneud yn dda.”

Dim rhyfedd felly ei fod wedi mwynhau dathlu o flaen torf Eisteddle’r Canton gyda gweddill y tîm wrth iddyn nhw ddathlu eu lle yn yr Ewros o’r diwedd.

“Mae wedi bod yn flwyddyn hir iawn i mi, felly roedd hi’n wych bod nôl allan yna gyda’r bechgyn, ac ar achlysur mor arbennig,” ychwanegodd.

“Mae’r cefnogwyr yna sydd wedi dilyn y tîm drwy ddŵr a thân yn haeddu clod, ac maen nhw wedi helpu i adeiladu’r gefnogaeth a gosod y seiliau yna.”

Chwaraewyr Cymru’n cael eu cyflwyno i’r dorf ar ôl sicrhau eu lle yn Ewro 2016:

Uchafbwynt gyrfa


Jonathan Williams yn siarad â'r wasg llynedd cyn gêm gyntaf ymgyrch Ewro 2016 Cymru yn erbyn Andorra
Mae’r asgellwr nawr yn gobeithio sefydlu ei hun yn nhîm Nottingham Forest, ble mae ar fenthyg tan fis Ionawr, cyn dychwelyd i Crystal Palace a gweld a fydd cyfle iddo yn y tîm cyntaf.

Ond yn naturiol mae’r sylw eisoes wedi troi at Ewro 2016, ac mae Jonny Williams yn bendant mai bod yn rhan o garfan Cymru yn eu cystadleuaeth ryngwladol cyntaf ers 58 mlynedd fyddai uchafbwynt ei yrfa hyd yma.

“Nes i chwarae yn ffeinal y gemau ail gyfle [i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda Crystal Palace] pan oeddwn i yn 19, a bydden i wedi gallu ymddeol a bod yn falch o gyflawni hynny!” meddai.

“Felly mae cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaethau rhyngwladol yn rhywbeth arall.

“Mae’r grŵp yma o chwaraewyr mae’r rheolwr [Chris Coleman] wedi’i roi at ei gilydd yn arbennig, felly roedd bod yn rhan o hynny yn reit emosiynol i mi ar y diwedd.”

Cyfle i’r genhedlaeth ifanc?

Mae Joniesta nawr yn un o’r cnwd ifanc o chwaraewyr disglair o gwmpas y garfan fydd yn gobeithio sicrhau eu lle yn y tîm erbyn y twrnament yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Un arall o’r rheiny yw Tom Lawrence, ymosodwr Caerlŷr sydd ar fenthyg yn Blackburn a enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Andorra.

“Mae e [Lawrence] wedi bod yn rhan o sawl carfan bellach felly roeddwn i’n falch o’i weld o’n dod ymlaen,” meddai Jonathan Williams, sydd ag wyth cap dros Gymru.

“Mae e’n foi da, dw i wedi chwarae gydag o drwy’r oedrannau o dan [Brian] Flynn, ac i fod yn chwarae ar y cae gyda fe, Ben [Davies], Ems [Emyr Huws], George [Williams] pan fydd e nôl, mae’n grêt i fod yn rhan o hynny a datblygu gyda nhw.”

Mae hefyd yn awgrymu y bydd o hyn ymlaen yn ceisio addasu ei steil o chwarae, sydd yn cynnwys tipyn o redeg chwim ac yn aml yn denu taclau brwnt gan amddiffynwyr, er mwyn sicrhau y bydd yn aros yn ffit ar gyfer y twrnament y flwyddyn nesaf.

“Bydden i wrth fy modd yn dechrau. Yr unig beth sydd wedi fy nal i nôl yw’r anafiadau,” mynnodd Joniesta.

“Dw i wedi cael blwyddyn anodd ond nid jyst blwyddyn yma yw e, mae adegau wedi bod o’r blaen.

“Felly bosib fod rhaid i mi fod yn fwy doeth, osgoi’r taclau brwnt, ond jyst ennill digon o giciau rhydd i Bale os allai!”

Cyfweliad: Iolo Cheung