Dave Edwards
Mae Dave Edwards yn cyfaddef ei fod yn ddiolchgar hyd yn oed i fod yng ngharfan bêl-droed Cymru ar drothwy beth allai fod yn benwythnos hanesyddol i chwaraeon y genedl.

Fe allai’r tîm pêl-droed sicrhau eu lle yn Ewro 2016 gyda gêm gyfartal yn erbyn Bosnia nos Sadwrn, yr un diwrnod ag y mae’r tîm rygbi yn herio Awstralia i geisio ennill eu grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Roedd Edwards yn ffodus i wella o anaf i’w ben-glin yn ddigon sydyn i allu ymuno â’r garfan ar gyfer eu gemau olaf yn yr ymgyrch i gyrraedd Ffrainc.

Ac mae nawr yn gobeithio gallu bod yn rhan o benwythnos cofiadwy tu hwnt i’r Cymry ar y meysydd chwarae.

“Does dim llawer o benwythnosau gwell wedi bod i chwaraeon Cymru,” meddai chwaraewr canol cae Wolves.

“Os ydyn ni’n mynd allan yna [i Fosnia] a chael y tri phwynt, a gweld nhw [y bechgyn rygbi] yn gorffen ar frig y grŵp, byddai hwnna’n rhywbeth arbennig. Bydd bod yn rhan o hynny yn rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono.”

‘Penwythnos llwyddiannus’

Mae dydd Sadwrn eisoes yn argoeli i fod yn ddiwrnod prysur i dafarndai a chlybiau ar hyd a lled Cymru, gyda chic gyntaf y rygbi am 4.45yp ac yna’r pêl-droed i’w ddilyn am 7.45yh.

Yn ôl Dave Edwards mae chwaraewyr y garfan bêl-droed wedi bod yn trafod llwyddiant y tîm rygbi hyd yn hyn yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys wrth gwrs y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr.

“Rydyn ni wedi cymryd tipyn o ysbrydoliaeth [o hynny]. Rydych chi’n edrych ar ba mor dda maen nhw wedi’i wneud yn yr ymgyrch, a hyd yn oed cyn dechrau fe gawson nhw anafiadau difrifol,” meddai Edwards wrth drafod y tîm rygbi.

“Roeddwn i’n gwylio’r gêm yn erbyn Lloegr yn Amwythig gyda llawer o Saeson, ac roedd fy ffrindiau a minnau’n hapus iawn, [yn enwedig] 15 munud olaf y gêm.

“Roedd gweld pa mor benderfynol oedden nhw, hyd yn oed wrth golli rhagor o chwaraewyr, a wir yn brwydro yn erbyn y llif, chwarae teg fe wnaethon nhw barhau i fynd, ac roedden ni’n falch iawn ohonyn nhw.

“Gobeithio gallwn ni ddefnyddio hynny hefyd, a bod Cymru’n gallu cael penwythnos llwyddiannus iawn!”

Dod dros anafiadau

Ar nodyn personol mae Dave Edwards hefyd yn gwerthfawrogi ei fod bellach nôl yn rhan bwysig o garfan Cymru, gan ddechrau’r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Cyprus ac Andorra.

Doedd bod yn rhan o garfan sydd ar drothwy sicrhau lle mewn twrnament rhyngwladol ddim hyd yn oed yn croesi ei feddwl ychydig flynyddoedd yn ôl, pan oedd yn cael trafferthion anafiadau cyson.

“Fe wnes i fethu lot o bêl-droed dros ddwy neu dair blynedd yn ystod canol fy ngyrfa [gydag anafiadau],” meddai’r chwaraewr sydd bellach yn 29 oed.

“Nawr dw i’n teimlo mod i wedi canfod fformiwla ble alla’i aros yn ffit. Mae fy ngêm i yn dibynnu lot ar redeg dwyster uchel felly mae’n bwysig mod i’n cadw’n ffit ac yn iach, gyda’r bechgyn yn Wolves a Chymru, a gwneud yn siŵr fod y fformiwla yna’n gweithio.

“Roedd yna gyfnodau yng Nghynghrair Un gyda Wolves, ac anafiadau, ble nes i erioed meddwl y byddai’r diwrnod yn cyrraedd ble bydden i’n eistedd yn fan hyn.

“Mae’n dda i mi mod i wedi bod yn ddigon penderfynol i ddod dros yr anafiadau hynny, a bod nôl yn chwarae yn rheolaidd yn y Bencampwriaeth – a gobeithio yn yr Uwch Gynghrair y flwyddyn nesaf.”

Stori: Iolo Cheung