Hwlffordd 0–0 Caerfyrddin                                                            

Di sgôr oedd hi ar Ddôl y Bont nos Sadwrn yng ngêm ddarbi’r de orllewin yn Uwch Gynghrair Cymru rhwng Hwlffordd a Chaerfyrddin.

Gêm ddigon diflas oedd hi mewn gwirionedd er i’r ddau dîm gael ambell gyfle, a dichon mai pwynt yr un oedd y canlyniad teg.

Hwlffordd a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond heb greu llawer o gyfleoedd clir o flaen gôl.

Yn wir, Caerfyrddin a ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf, a hynny gydag un o’r symudiadau olaf cyn yr egwyl pan y bu rhaid i Scott James wneud arbediad da i atal Kieran Lewis.

Cwbl groes oedd yr ail hanner, gyda Caerfyrddin yn cael y gorau o’r gêm ond y cyfleoedd gorau yn dod i Hwlffordd.

Roedd y tîm cartref yn meddwl eu bod yn haeddu cic o’r smotyn wedi pum munud pan gafodd Luke Borelli ei lorio gan Dwayne Bailey ar linell y cwrt cosbi ond wnaeth y dyfarnwr ddim rhoi hyd yn oed cic rydd i’r ymosodwr.

Cafodd Borelli gyfle da i sgorio toc wedi’r awr ond tarodd ei hanner foli ym mhell dros y trawst.

Daeth un cyfle arall i Hwlffordd yn yr eiliadau olaf un ond gwnaeth Lee Idzi yn y gôl i Gaerfyrddin arbediad da i atal cynnig Declan Carroll o ugain llath yn dilyn rhediad da gan yr eilydd.

Mae’r canlyniad yn ddigon i godi Hwlffordd oddi ar waelod tabl yr Uwch Gynghrair i’r unfed safle ar ddeg, gyda Chaerfyrddin yn aros un lle uwch eu pennau yn y degfed safle.

.

Hwlffordd

Tîm: James, Watts, Pemberton, Rodon, Batley, Palmer, Howard, Walters, Roberts (Christopher 80’), Williams (Carroll 64’), Borelli (Follows 74’)

Cerdyn Melyn: Carroll 84’

.

Caerfyrddin

Tîm: Idzi, Cummings, Sheenan, Bailey, C. Thomas, Hanford (Morgan 58’), Lewis, Harling, D. Thomas, Jones (Prosser 75’), L. Thomas (Bassett 82’)

Cardiau Melyn: D. Thomas 52’, Morgan 68’, L. Thomas 72’

.

Torf: 389