Caer 3–2 Wrecsam                                                                             

Colli oedd hanes Wrecsam yn y gêm ddarbi yn erbyn Caer yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y Dreigiau ddwy gôl oddi cartref yn Stadiwm Diva ond y tîm cartref aeth â hi gan sgorio tair.

Caer a gafodd y gorau o’r hanner awr cyntaf cyn i John Ronney eu rhoi ar y blaen gyda chwip o gic rydd.

Roedd Wrecsam yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach diolch i gic o’r smotyn Dominic Vose yn dilyn trosedd ar Blaine Hudson yn y cwrt cosbi.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Caer yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr diolch i Tom Shaw, ac roedd ganddynt ddwy gôl o fantais wedi i Kane Richards ychwanegu’r drydedd.

Tynnodd Connor Jennings un yn ôl i’r Dreigiau yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Wrecsam lithro i’r chweched safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Caer

Tîm: Worsnop, Higgins, Kay, Hunt, Heneghan, Rooney, Shaw, Sharps, Roberts (Chapell 71′), Hannah, Hobson (Richards 46′)  

Goliau: Rooney 34’, Shaw 58’, Richards 69’

Cardiau Melyn: Hannah 62’, Worsnop 90’

.

Wrecsam

Tîm: Belford, Vidal, Smith, Moke (Smith 64′), Newton, Hudson, Evans, Nolan (York 65′), Jennings, Quigley (Carrington 70′), Vose

Goliau: Vose 39’, Jennings 90’

Cardiau Melyn: Nolan 50’, Evans 90’

.

Torf:  3,741