Is-hyfforddwr Cymru Osian Roberts
Mae is-hyfforddwr Cymru Osian Roberts wedi croesawu’r ffaith bod Cymru wedi gallu dewis eu carfan gryfaf ers tro byd ar drothwy’r ddwy gêm allai sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes.

Fe fydd bechgyn Chris Coleman yn herio Bosnia wythnos i yfory ac yna Andorra ar y nos Fawrth sydd i ddilyn. Dyma fydd  eu dwy gêm olaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016, a dim ond pwynt sydd ei angen i sicrhau eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Cafodd y garfan ei henwi ddoe, gyda Coleman yn hyderus y bydd sêr fel Gareth Bale a Joe Allen yn ffit yn dilyn anafiadau diweddar.

Ar y llaw arall mae eu gwrthwynebwyr cyntaf Bosnia yn gorfod ymdopi heb ddau o’u prif sêr, yr ymosodwr Edin Dzeko a’r chwaraewr canol cae Muhamed Besic.

Creu cystadleuaeth

Yn ôl Osian Roberts, sydd wedi bod yn gefn i Chris Coleman a’r tîm drwy gydol yr ymgyrch, mae’n braf gallu croesawu sawl chwaraewr gan gynnwys Joe Allen, Jonny Williams ac Emyr Huws yn ôl ar gyfer gemau mor dyngedfennol.

“Mae’n amseru da i nifer o’n chwaraewyr ni ddod nôl i ffitrwydd, jyst cyn y gemau yma, sy’n beth da,” meddai’r is-hyfforddwr wrth golwg360.

“Mae’r gemau wedi dod ychydig yn gynnar i ambell un, ond yn y bôn, [mae] nifer o chwaraewyr yn dod nôl i ffitrwydd jyst mewn amser da.

“Mae hynny wastad yn bwysig. Rydan ni angen cystadleuaeth am y safleoedd, mae o’n hwb i’r chwaraewyr pan mae pawb yn gallu troi fyny, ac mae hefyd yn helpu gydag ymarferion bod y tempo ar lefel mor uchel â phosib.”

Pod pêl-droed Golwg360 cyn gemau Bosnia ac Andorra:

Awyrgylch ‘danbaid’

Bosnia yw’r unig dîm nad yw Cymru wedi trechu yn y grŵp rhagbrofol hyd yn hyn. Di-sgôr oedd hi yng Nghaerdydd flwyddyn yn ôl.

Ac mae Osian Roberts yn disgwyl gêm galed yn Zenica, ble bydd dros 700 o gefnogwyr ffyddlon Cymry yno yn gobeithio bod yn dyst i’r canlyniad sydd yn sicrhau lle yn eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd.

“Rydan ni’n gwybod fod rhaid iddyn nhw ennill y gêm, rydan ni’n gwybod fod yr awyrgylch yn mynd i fod yn un tanbaid, ac rydan ni’n gwybod bod hi’n mynd i fod yn her pwy bynnag maen nhw’n ei roi ar y cae oherwydd bod ganddyn nhw garfan gref,” esboniodd Osian Roberts.

Croesawu’r her

Er bod Bosnia wedi cael ymgyrch siomedig hyd yn hyn mae ganddyn nhw dal obaith o orffen yn drydydd yn y grŵp a chyrraedd y gemau ail gyfle os ydyn nhw’n trechu Cymru.

Ac fel tîm fu’n chwarae yng Nghwpan y Byd llai na blwyddyn a hanner yn ôl, mae’r gwrthwynebwyr o’r Balcanau eisoes wedi profi eu bod yn medru herio’r goreuon.

“Maen nhw wedi bod ar y brig mewn pêl-droed rhyngwladol ers tipyn rŵan, ac nid oherwydd dau chwaraewr, felly rydan ni’n gwybod beth sydd o’n blaenau ni,” ychwanegodd Osian Roberts.

“Allwn ni ddim fforddio meddwl y bydd hi’n gêm haws achos bod dau chwaraewr ddim yn chwarae. Mae’n mynd i fod yn dipyn o her allan yna, mae’n gêm sydd yn rhaid iddyn nhw ei ennill felly maen nhw’n mynd i daflu popeth tuag atom ni, ac mae’n rhaid i ni groesawu’r her yna.

“Dyna beth sydd gennym ni fel meddylfryd bellach, lle bynnag rydan ni’n mynd rydan ni’n teimlo y gallwn ni fod yn cipio’r tri phwynt.”

Cyfweliad: Jamie Thomas

Stori: Iolo Cheung