Mae clwb pel-droed Newport County wedi rhoi’r sac i’w rheolwr, Terry Butcher – a hynny wedi dim ond pum mis wrth y llyw.

Mae’r clwb ar hyn o bryd ar waedlod yr ail gynghrair, wedi iddyn nhw ennill dim ond un o’u deg o gemau ers i’r cyn-chwaraewr Lloegr gymryd gofal o bethau yng Nghasnewydd.

Mae cynorthwy-ydd Buther, Russell Osman, a’r prif sgowt, Steve Marsella, hefyd wedi gadael y clwb.

Mae Newport County wedi rhyddhau datganiad y prynhawn yma yn dweud eu bod yn obeithiol o benodi olynydd i Butcher cyn yr ornest yn erbyn Exeter City dros y Sul.