Chris Coleman yn wên i gyd yn y gynhadledd heddiw
Fe fydd Cymru yn barod i “gyflawni rhywbeth arbennig” ym Mosnia wythnos nesaf a sicrhau eu lle yn Ewro 2016, yn ôl eu rheolwr Chris Coleman.

Cafodd y garfan o 25 chwaraewr, fydd yn cael ei gwtogi i 23 cyn y gemau yn erbyn Bosnia ar 10 Hydref ac Andorra ar 13 Hydref, ei henwi gan Coleman heddiw.

Y rhyddhad mwyaf i gefnogwyr Cymru yw bod eu prif seren Gareth Bale wedi cael ei gynnwys, gan awgrymu ei fod e bellach wedi gwella o anaf i groth y goes.

Jamie Thomas fu draw ar ran Golwg360 i wrando ar Chris Coleman yn trafod y garfan.

Gareth Bale yn ffit

“Dw i’n meddwl wrth gwrs fod e wedi bod yn allweddol yn yr ymgyrch hon, nid yn unig gyda’r goliau mae e wedi sgorio, ond gyda’r perfformiadau a’r meddylfryd mae’n ei gynnig i’r grŵp, mae e wedi bod yn hynod o bwysig.

“Dych chi ddim eisiau bod yn mynd i gemau mor bwysig â’r ddau yma heb rywun fel fe, ond mae’r newyddion o Madrid yn dda a gobeithio y bydd yn cael naw deg munud i Madrid cyn dod atom ni.

“Ar hyn o bryd, mae pethau yn obeithiol. Mae’r holl adborth rydw i’n cael oddi wrth fy nhîm meddygol yn gadarnhaol, mae disgwyl iddo fod ar gael ar gyfer gêm cyn iddo ddod atom ni.

“Os yw’n ffit i gwrdd lan â ni, yna fe fyddai’n edrych i’w chwarae e ym Mosnia wrth gwrs. Er mwyn cael canlyniad ym Mosnia, mae angen ein tîm cryfaf ar y cae.”

Croesi’r llinell derfyn

“Mae’n gêm arall sy’n ein hwynebu ni tydi? Hyd yn oed taswn ni wedi cyrraedd yr Ewros gyda dwy gêm yn weddill, fe fyddai fy neges i wedi bod yn union yr un peth.

“Rydyn ni’n chwarae dros Gymru, yn cynrychioli ein gwlad – mae’r chwaraewyr hyn wedi creu awyrgylch lle bob tro byddan nhw’n camu ar y cae maen nhw’n rhoi popeth i gael y perfformiad a chael y canlyniad.

“Pob tro rydyn ni’n ennill gêm mae gêm arall o’n blaenau. Rydyn ni wedi bod ar frig y tabl am dair gêm, ond bydd y neges i’r chwaraewyr a’r grŵp yr un fath.

“Rydyn ni’n chwarae dros Gymru ac mae’n golygu popeth, mae’n rhaid iddo olygu popeth, fe wnawn ni adael popeth ar y cae a bydd y canlyniadau’n dilyn o hynny. Mae angen pwynt, mae angen i ni ofalu amdanom ni’n hunain, a’n busnes ni yw cael y canlyniad yn erbyn Bosnia.”

Her oddi cartref

“Dw i wrth fy modd mewn sefyllfaoedd caled fel hynny, milltiroedd i ffwrdd o gartref ac mae’n rhaid i chi amddiffyn eich cornel ac os ‘dych chi’n gwneud hynny mae gennych chi gyfle.

“Rydyn ni wedi dangos yr un meddylfryd a beth rydyn ni wedi’i wneud dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi creu’r awyrgylch yma gan ein bod ni’n barod i amddiffyn ein cornel. Fe fydd hi’n heriol, ond rydyn ni’n croesawu hynny.

Cyfnod gwych i chwaraeon Cymru

“Boed e’n rygbi, hoci, athletau, os ‘dych chi’n Gymry ac yn cystadlu, rydyn ni yno gyda’n gilydd. Roedd perfformiad [y tîm rygbi] yn Twickenham yn anhygoel, fe ddangosodd bois Cymru sgil a dewrder anghredadwy ac mae’r genedl gyfan yn falch ohonyn nhw.

Wrth gwrs ei fod e’n dda gweld chwaraeon Cymru yn gwneud cystal. Hir oes i hynny, ac rydyn ni’n dymuno’n dda i Warren [Gatland], ei holl staff a’i dîm, yn y gêm heno [yn erbyn Fiji].”

Anafiadau

“O siarad gyda Lerpwl, mae Joe [Allen] yn gwneud yn dda yn gorfforol. Yn y ffordd ni’n hoffi chwarae mae e’n bwysig iawn i hynny, torri’r llinellau a chanfod Bale a Ramsey. Gobeithio bydd e’n ffit. Fydd e’n ffit am ddwy gêm? Dw i ddim yn gwybod.

“Mae’n chwaraewr gwych, yn fachgen grêt i gael o gwmpas y lle, a gallwn ni ddim anghofio ei berfformiadau gwych e yn erbyn Gwlad Belg ac Israel hyd yn hyn yn yr ymgyrch.

“Yn y garfan ddiwethaf fe gollon ni Vaughan, Ledley yn hwyr, dim Allen, dim Huws, pob un yn chwaraewr canol cae amddiffynnol naturiol da, felly roedd rhaid newid ychydig ac roedd King ac Edwards yn wych.

“Mae’n dda bod pawb yn edrych yn iachach nawr. Mae Jonny Williams wedi bod yn chwarae i ail dîm Nottingham Forest ond mae e ar y ffordd nôl i gyrraedd y lefel mae e angen bod. Mae e’n chwaraewr gwych, mae llawer mwy i ddod ganddo yn fy marn i ac mae e’n un y byddwn ni’n croesawu nôl.

“Mae’n ben tost i amddiffynwyr ac yn creu lle i eraill, ac mae e’n codi’r tempo mewn ymarferion, sydd yn codi lefel pawb arall wedyn. Mae Emyr Huws yn un arall sydd wedi bod yn gwneud yn dda yn Huddersfield.

Ar ôl gêm Israel

“Doeddech chi methu â pheidio teimlo’r cyffro, ar ôl dod oddi ar yr awyren nôl o Cyprus roeddech chi’n gallu ei deimlo fe yn yr awyr. Byddai wedi bod yn ffordd berffaith i sicrhau lle yn ein twrnament cyntaf ers 57 mlynedd, gartref yn y brifddinas o flaen torf lawn.

“fe gawson ni bedwar pwynt o’r ddwy gêm, a petawn ni wedi cael pwynt yng Nghyprus a buddugoliaeth yn erbyn Israel byddai pobl wedi edrych arni’n wahanol.

“Ond mae wedi ein gwthio ni’n agosach at ble mae angen i ni fod ac mae gennym ni ddwy gêm i sicrhau pwynt – ar ddechrau’r ymgyrch, petaech chi wedi cynnig hynny i ni, fe fydden ni wedi cymryd e. Fel mae’r gemau wedi mynd heibio mae ein meddylfryd ni wedi newid.

“Ond dyw hynny ddim yn golygu y byddwn ni’n mynd i Fosnia i gael pwynt, rydyn ni eisiau ennill. Un ymdrech arall gan y bechgyn yma a dw i’n hollol hyderus y byddan nhw’n cyflawni rhywbeth arbennig. Does dim wedi newid fy meddwl i ynglŷn â hynny, a nawr yw’r amser i ni fynd a chwblhau’r gwaith.”