Stadiwm Dinas Caerdydd
Jamie Thomas oedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ran Golwg360 neithiwr, ac mae’n bwrw golwg yn ôl ar ddigwyddiadau noson ddramatig, ac ychydig yn siomedig o bêl-droed i Gymru.

Llwyddodd Israel i gadw at air eu hyfforddwr yng Nghaerdydd neithiwr wrth iddyn nhw ddal  Cymru i gêm ddi-sgôr yn Stadiwm Dinas Caerdydd – a oedd yn llawn i’r ymylon.

Dywedodd Eli Guttman cyn y gêm y byddai’n gohirio dathliadau Cymru, ac wrth fabwysiadu tactegau amddiffynnol, gwnaeth Israel yn siŵr bod rhaid i Gymru aros am fis arall nes sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016.

Dywedodd Chris Coleman yn ei nodiadau yn rhaglen y gêm ei fod yn falch i fod nôl yn Stadiwm y Ddinas Caerdydd gan gyfeirio at yr awyrgylch anhygoel a grëwyd gan y cefnogwyr y tro diwethaf y chwaraeodd y tîm yno’n erbyn Gwlad Belg.

Mae’n deg dweud bod y cefnogwyr wedi gwneud eu gorau i greu cystal awyrgylch o funud cyntaf y gêm yma hefyd.

Hanner awr cyn y gêm roedd Eisteddle’r Canton i gyd yn dawnsio i un o anthemau diweddaraf y tîm cenedlaethol, Zombie Nation – awyrgylch parti oedd i’r achlysur, nid awyrgylch nerfus y byddech yn disgwyl o gêm mor enfawr.

Tactegau

Chwaraeodd Israel system wahanol i’r hyn maen nhw’n arfer ei chwarae, gyda’r hyfforddwr Eli Guttman yn dewis chwara 3-5-2 er mwyn trio atal grym ymosodol Cymru.

Roedd aelodau’r wasg o Israel wedi dyfalu y gallai Guttman ddewis gwneud hynny oherwydd gwendidau ar ochr chwith y tîm. Ond methodd y newidiadau tactegol yma i raddau helaeth  gan i Jazz Richards a Gareth Bale gael dipyn o hwyl a chreu trafferthion ar yr asgell yma trwy’r gêm.

Serch hynny, yn yr hanner cyntaf, roedd un peth yn eisiau gan Gymru sef y bas olaf allweddol. Llwyddodd hogia’ Coleman i reoli’r meddiant ond methodd â chreu digon, na manteisio’n ddigonol ar y cyfleoedd a gafwyd.

Ar adegau roedd o’n ymddangos na fyddai Cymru byth yn  sgorio, gydag Israel yn eistedd mor ddwfn yn eu hanner eu hunain yn amddiffyn, a Chymru’n methu dod o hyd i’r bas allweddol ‘na a oedd ei angen i hollti amddiffyn y gwrthwynebwyr.

Roedd yn amlwg bod disgwyliadau uchel gan gefnogwyr Cymru oherwydd bob tro roedd cic gornel neu gic rydd, roedd y twrw yn y stadiwm yn anhygoel.

Drama ar y diwedd

Aeth Andy King yn agos iawn wedi tua 60 munud, wrth gysylltu â chroesiad Aaron Ramsey o gornel – dechreuodd y dorf ddathlu o’r eiliad y tarodd  y bêl ei ben, ond trodd y dathlu’n siom wrth i’r golwr arbed.

Roedd y dorf yn dechrau aflonyddu gyda chwarter awr yn weddill, ac Israel yn fodlon â gêm gyfartal a’u chwaraewyr yn gwastraffu amser bob cyfle. Wedi’r holl obaith dros y dyddiau’n arwain at y gêm roedd yn dechrau dod yn amlwg y byddai’n rhaid i Gymru aros i gael dathlu.

Wrth i gynorthwyydd y dyfarnwr ddynodi bod pedair munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm, cynyddodd y sŵn yn y stadiwm unwaith eto wrth i Gymru chwilio am y gôl a oedd yn siŵr o ennill y gêm a chadarnhau eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ac yna, llwyddodd Cymru i ganfod rhwyd yr ymwelwyr yn y funud olaf un o amser ychwanegol –  yr eilydd o ymosodwr Simon Church yn rhwydo o beniad Gareth Bale yn y cwrt, am ddrama! Ond ofer oedd dathliadau cefnogwyr a chwaraewyr Cymru wrth i’r gôl gael ei gwrthod – Church yn camsefyll, a’r camerâu teledu’n cadarnhau hynny’n glir.

Mae’n siŵr bod  Cymru’n siomedig bod rhaid iddynt ddisgwyl am fis arall am eu cyfle i gadarnhau eu lle yn Ffrainc, wrth i Gyprus fethu â rhoi help llaw trwy guro neu sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg yn hwyrach neithiwr. Ond gyda dwy gêm yn weddill, does bosib na all tîm Chris Coleman sicrhau’r un pwynt tyngedfennol hwnnw fyddai’n cadarnhau eu lle yn Ewro 2016.