Wrecsam 3–1 Halifax            
                                                           

Mae Wrecsam bellach yn ail yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ar ôl trechu Halifax o flaen torf dda arall yn y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Daeth dros bum mil i weld Javan Vidal a Dominic Vose yn rhoi mantais gynnar i’r Dreigiau yn erbyn Halifax cyn i Wes York sicrhau’r tri phwynt yn yr ail hanner.

Wyth munud yn unig oedd ar y cloc pan roddodd Vidal y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith creu York.

Dyblodd Vose’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner gyda chynnig da arall o du allan i’r bocs.

Dau funud yn unig barodd hi felly serch hynny cyn i Jordan Burrows benio’r ymwelwyr yn ôl o fewn gôl.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond fe adferodd York y ddwy gôl o fantais wedi deg munud o’r ail hanner pan wyrodd ei ergyd o bellter heibio i Brooks yn y gôl.

Felly yr arhosodd hi tan y diwedd ac mae Wrecsam bellach yn ail yn y tabl. Dim ond Forest Green, sydd wedi ennill chwech allan o chwech, sydd uwch eu pennau.

.

Wrecsam

Tîm: Belford, Vidal, Smith, Moke (Carrington 94′), Newton, Fyfield, Evans, Jennings, York, Gray (Jackson 79′), Vose (Smith 83′)

Goliau: Vidal 8’, Vose 24’, York 55’

Cerdyn Melyn: Vose 67′

.

Halifax

Tîm: Brooks, Glennon, Roberts, James, Bolton, Hutchison (Walker 46′), McManus, Bencherif, Hibbs (Hamilton 68′), Burrow, Tuton, MacDonald (Hughes 46′)

Gôl: Burrow 26’

.

Torf: 5,662