Nottingham Forest 1–2 Caerdydd      
                                        

Mae dechrau da Caerdydd i’r tymor yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddynt drechu Nottingham Forest oddi cartref yn y City Ground brynhawn Sadwrn.

Mae’r Adar Gleision dal heb golli yn y gynghrair wedi i goliau Kenwyne Jones a Joe Mason sicrhau’r tri phwynt iddynt yn eu pumed gêm.

Peniodd Jones yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Peter Wittingham hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Dyblodd Mason y fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd ergyd Anthony Pilkington heibio i Dorus de Vries yn y gôl.

Cafodd y Cymry gyfleoedd i ychwanegu at eu mantais cyn i Forest orffen yn gryf. Rhwydodd Michail Antonio bedwar munud o ddiwedd y naw deg i greu diweddglo diddorol ond daliodd Caerdydd eu gafal ar y fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad yn eu codi i’r pumed safle yn nhabl y Bencampwriaeth wedi dwy fuddugoliaeth a thair gêm gyfartal yn eu pum gêm gyntaf.

.

Nottingham Forest

Tîm: de Vries, Lichaj, Mills, Hobbs, Pinillos, Mancienne, Burke (Blackstock 59′), Ebecilio (Osborn 45′), Vaughan, Antonio, Walker (McDonagh 80′)

Gôl: Antonio 86’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio (Malone 80′), Pilkington (Noone 91′), Dikgacoi, Whittingham, Ralls, Mason, Jones (Ameobi 70′)

Goliau: Jones 23’, Mason 49’

Cardiau Melyn: Ralls 20’, Fabio 33’, Ameobi 84’, Pilkington 90’

.

Torf: 18,762