Chafodd Gareth Bale a Real Madrid ddim y dechrau gorau i’w tymor yn La Liga wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Sporting Gijon yn eu gornest agoriadol.

Roedd y Cymro yn chwarae rôl fwy canolog yn y tîm o dan eu rheolwr newydd Rafael Benitez, ond er iddo edrych yn beryglus ar adegau lwyddodd o ddim i gipio gôl fyddai wedi rhoi’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Bydd cefnogwyr y tîm cenedlaethol yn falch, fodd bynnag, fod Bale wedi dod drwy’r gêm yn ddianaf gyda dwy ornest hollbwysig yn erbyn Cyprus ac Israel ar y gorwel.

Yn yr Uwch Gynghrair fe gadwodd Ben Davies ei le fel cefnwr chwith Spurs er bod Danny Rose yn ffit unwaith eto, wrth i’w dîm gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Andy King a Chaerlŷr.

Un yr un oedd hi hefyd rhwng Sunderland ac Abertawe, gydag Ashley Williams a Ben Davies yn amddiffyn yr Elyrch ac Adam Matthews ar fainc y tîm cartref.

Ar y fainc oedd James Chester i West Brom fodd bynnag wrth iddyn nhw golli 3-2 gartref i Chelsea mewn gêm gyffrous ar brynhawn Sul.

Roedd James Collins hefyd ar y fainc i West Ham wrth iddyn nhw golli 4-3 gartref i Bournemouth.

Am y drydedd gêm yn olynol doedd Joe Ledley ddim yng ngharfan Crystal Palace, oedd â Wayne Hennessey ar y fainc, wrth iddyn nhw drechu Aston Villa 2-1.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth, fe sgoriodd David Vaughan glincar o ergyd i Nottingham Forest o 25 llathen i’w rhoi nhw ar y blaen yn erbyn Bolton, cyn i’r tîm cartref unioni’r sgôr yn yr eiliadau olaf.

Daeth Sam Vokes oddi ar y fainc am hanner awr wrth i Burnley drechu Brentford 1-0, ac roedd Jazz Richards a Joel Lynch yn wynebu ei gilydd wrth i’r gêm rhwng Fulham a Huddersfield orffen yn 1-1.

Yr un oedd y sgôr rhwng Birmingham a Derby nos Wener, gyda Dave Cotterill yn dechrau i’r Blues a Neal Eardley nôl ar y fainc.

Di-sgôr oedd hi rhwng Reading a MK Dons wrth i Chris Gunter a Hal Robson-Kanu ddod wyneb yn wyneb â’u cyn gyd-chwaraewr Simon Church.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Dave Edwards, Lewis Price, Rhoys Wiggins a Morgan Fox gemau llawn, ac fe ddaeth Wes Burns a Michael Doughty odi ar y fainc i’w clybiau.

Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw unwaith eto wrth i Walsall drechu Coventry a Sam Ricketts, ac ymysg y chwaraewyr eraill i chwarae i’w clybiau roedd Lewin Nyatanga, Marley Watkins, Jordan Williams, Chris Maxwell a Craig Davies.

Ac yn Uwch Gynghrair yr Alban fe chwaraeodd Danny Ward ac Ash Taylor gemau llawn i Aberdeen, gydag Owain Fôn Williams yn gwneud yr un peth gydag Inverness.

Seren yr wythnos – David Vaughan. Ymlaen fel eilydd, ond am ergyd hyfryd ar ei droed chwith ar gyfer y gôl.

Siom yr wythnos – James Chester. Ddim wedi dod oddi ar y fainc i West Brom, ond ar ôl iddyn nhw ildio tair mae’n bosib y caiff ei gyfle wythnos nesaf.