James Chester
Yn ôl adroddiadau gan Sky Sports, fe fydd yr amddiffynnwr pêl-droed o Gymru, James Chester, yn ôl yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesa – yn chwarae i West Bromwich Albion.

Roedd straeon papur newydd dros y Sul wedi awgrymu bod clybiau megis Newcastle ac Aston Villa wedi dangos diddordeb yn chwaraewr Hull.

Ond y diweddara’ gan bapur yr Hull Daily Mail yw ei fod yn ymuno â’r Baggies am £8miliwn.

Fe fydd y symudiad yn newyddion da i reolwr Cymru, Chris Coleman, gan sicrhau bod un o’i amddiffynwyr allweddol yn parhau i chwarae ar y lefel ucha’.

Bydd James Chester yn ymuno gyda’i gyd-chwaraewr rhyngwladol Tyler Roberts, y llanc ifanc 17 mlwydd oed sydd yn barod yn aelod sefydlog o dîm y Baggies.

Mae’r stori’n cadarnhau cyhoeddiad gan reolwr Hull City, Steve Bruce bod y chwaraewr wedi gadael sesiwn hyfforddi’r clwb y bore yma.

Mae disgwyl i James Chester dderbyn profion meddygol yn yr Hawthorns ar brynhawn Ddydd Mawrth.

Mwy o fanylion i ddilyn.