Mae’r broses geisiadau ar gyfer cynnal Cwpan y Byd yn 2026 wedi cael ei gohirio oherwydd yr ymchwiliad i honiadau o lygredd a thwyll yn erbyn FIFA.

Daeth cadarnhad o’r penderfyniad gan Ysgrifennydd Cyffredinol FIFA, Jerome Valcke.

Roedd disgwyl penderfyniad ynghylch pwy fyddai’n cynnal y gystadleuaeth erbyn 2017.

Ond mae ymchwiliad eisoes ar y gweill i’r broses arweiniodd at roi cystadleuaeth 2018 i Rwsia a chystadleuaeth 2022 i Qatar.

Arweiniodd yr honiadau at ymddiswyddiad y llywydd Sepp Blatter.

Mae Valcke wedi gwadu ei fod â rhan yn y sgandal, pan gafodd taliad gwerth 10 miliwn o ddoleri (£6.5 miliwn) ei wneud i swyddog adeg Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg yn ninas Samara yn Rwsia, dywedodd Gweinidog Chwaraeon y wlad, Vitaly Mutko fod cais Rwsia’n un dilys a chyfreithlon, ac nad oes perygl i Gwpan y Byd 2018.