Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae Gwlad Belg wedi paratoi ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Cymru nos Wener wrth drechu Ffrainc mewn gêm gyfeillgar.

Fe enillodd y Belgiaid yn gyfforddus ym Mharis neithiwr o 4-3, gyda Marouane Fellaini yn sgorio dwy a Radji Nainggolan ac Eden Hazard hefyd yn rhwydo.

Mathieu Valbuena, Nabil Fekir a Dimitri Payet oedd sgorwyr Ffrainc, ond fe ddaeth dau o’r goliau hynny yn hwyr yn y gêm pan oedd Gwlad Belg eisoes wedi sicrhau’r canlyniad.

Fe fydd tîm Marc Wilmots nawr yn teithio i Gaerdydd yr wythnos hon i herio Cymru  mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

‘Dechrau gwych’

Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman ym Mharis neithiwr i wylio Gwlad Belg yn herio Ffrainc, gan fod Cymru wedi penderfynu cynnal cyfnod ymarfer hirach yn hytrach na pharatoi gyda gêm gyfeillgar.

Fe fydd y gêm nos Wener yn ornest rhwng y ddau dîm sydd ar frig Grŵp B, gyda Gwlad Belg o flaen Cymru ar wahaniaeth goliau yn unig.

Llwyddodd Cymru i gael gêm gyfartal di-sgôr ym Mrwsel llynedd, ac yn ôl chwaraewr canol cae y Cochion Aaron Ramsey mae hynny wedi rhoi hyder i’r garfan allu gwneud hyd yn oed yn well o flaen eu torf gartref.

“Mae hi wedi bod yn ddechrau gwych i’r grŵp i ni fod yn hafal ar y brig ar ôl pum gêm,” meddai Aaron Ramsey.

“Dyma beth rydyn ni wedi bod yn paratoi ar ei gyfer, ac mae ein gwaith caled ni dros y blynyddoedd diwethaf o’r diwedd yn dechrau dwyn ffrwyth. Rydyn ni’n gwybod beth sy’n ein wynebu.

“Rydyn ni’n hyderus, rydyn ni gartref ac mae gennym ni stadiwm lawn am y tro cyntaf ers sbel felly mae’n gêm gyffrous iawn i fod yn rhan ohoni.”