Cyflwynwyr y rhaglen newydd
Fe fydd sioe bêl-droed newydd yn cyrraedd sgriniau Cymru ar S4C, jyst mewn pryd i roi sylw i’r tîm cenedlaethol cyn un o’u gêmau pwysica’ erioed.

Fe fydd rhifyn arbennig o Taro’r Bar: Euro 2016, yn cael ei ddarlledu nos Iau’r wythnos nesa’ yn rhoi sylw i’r tîm wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Gwlad Belg.

Yn ôl y cwmni cynhyrchu, fe fydd y sioe, sy’n cael ei chyflwyno gan Dylan Ebenezer, yn gyfuniad o adloniant a sgwrsio am bêl-droed.

Mae’r actorion Aled Pugh a Huw Rees hefyd yn rhan o’r lein-yp ar gyfer y rhaglen, a fydd hefyd yn cynnwys gwesteion gwadd a heriau doniol.

Y gred ar hyn o bryd yw bod disgwyl i’r rhaglen, sydd yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Rondo, ddarlledu yr wythnos nesa’ ac yna yn yr hydref pan fydd gemau nesa’ tîm Cymru yn cael eu chwarae.

Efelychu Jonathan?

Mae S4C wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd gyda rhaglen Jonathan, sydd yn cyfuno adloniant ysgafn a sgwrsio am y tîm rygbi cenedlaethol.

Ac mae cyflwynydd Taro’r Bar: Euro 2016 yn cyfadde’u bod nhw wedi defnyddio model y rhaglen rygbi fel man cychwyn ar gyfer eu sioe hwythau, er na fydd yn dilyn yr union yr un patrwm.

“Rhyw fath o chat show yn siarad am bêl-droed fydd hi – gwneud beth fydd pawb arall yng Nghymru yn ei wneud y noson cyn gêm Cymru a Gwlad Belg!” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.

“Does dim un rhaglen yn para deng mlynedd heb fod yn llwyddiant, ac mae Jonathan wedi bod yn mynd ers blynyddoedd, ni jyst yn rhoi twist bach newydd arni.”