Gary Mills
Fe allai Clwb Pêl-droed Wrecsam gyhoeddi heno eu bod wedi penodi Gary Mills yn rheolwr newydd, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl y Daily Post a’r BBC mae disgwyl i’r clwb gadarnhau’r newyddion heno, a hynny ar ôl wythnosau o chwilio am y person fydd yn arwain y tîm y tymor nesaf.

Ar hyn o bryd mae Mills yn rheolwr ar Gateshead, a’r sôn yw y bydd yn rhaid i Wrecsam dalu tua £30,000 i’r clwb o ogledd ddwyrain Lloegr am ei wasanaeth.

Llwyddodd Gary Mills i ennill dyrchafiad o’r Gyngres gyda York City yn 2012, a llynedd fe arweiniodd Gateshead i drydydd yn y tabl cyn colli yn ffeinal y gemau ail gyfle.

Roedd Tranmere Rovers hefyd wedi ceisio perswadio Gary Mills i gymryd y swydd rheolwr  sydd ganddyn nhw, a hynny ar ôl iddyn nhw ddisgyn o Gynghrair Dau i’r Gyngres dros y penwythnos.

Carl Darlington sydd wedi bod yn rheolwr ar Wrecsam dros dro, a hynny ar ôl i Kevin Wilkin gael ei ddiswyddo pum wythnos yn ôl wedi i’r tîm golli ffeinal Tlws FA Lloegr i North Ferriby United.

Fe orffennodd Wrecsam yn 11eg yn y Gyngres y tymor hwn, un safle y tu ôl i Gateshead.