Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyhuddo Israel o geisio amharu ar baratoadau ei dîm cyn y gêm nos Sadwrn – a bod y bechgyn wedi ymateb yn y ffordd orau posib.

Cipiodd Cymru fuddugoliaeth hollbwysig a hollol haeddiannol o 3-0 yn Haifa dros y penwythnos diolch i goliau gan Aaron Ramsey a Gareth Bale.

Mae’r canlyniad wedi codi’r tîm i frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 gyda’r ymgyrch bellach wedi cyrraedd hanner ffordd.

Ac fe fynnodd Coleman na fyddai’r ymgyrch yn disgyn o’u gafael wrth i’r tîm nesáu at y diwedd, fel sydd wedi digwydd i Gymru yn y gorffennol.

Shenanigans

Dywedodd Coleman ar ôl y fuddugoliaeth ei fod yn cofio ei hun pa mor anodd oedd hi fel chwaraewr i deithio oddi cartref ar gyfer gêm a gorfod dod i arfer ag amgylchedd gwahanol.

Awgrymodd hefyd fod Israel wedi ceisio anesmwytho tîm Cymru ar ôl iddyn nhw gyrraedd Tel Aviv dydd Iau.

“Fel chwaraewr dw i’n cofio mynd i lefydd, roeddech chi’n gwybod am y shenanigans, chwarae’r gemau hynny,” meddai Coleman.

“Byddai rhywbeth yn bod ar y gwesty, rhywbeth yn bod gyda’r bwyd yn y gwesty.

“Fe gyrhaeddon ni yno ar ddydd Iau ac roedd y siwrne o’r maes awyr i fod yn 45 munud, fe gymerodd hi awr a 55 munud achos fod yr escort wedi ‘troi’r ffordd anghywir’.

“Wedyn fe gyrhaeddodd ein bagiau ni tair neu bedair awr yn hwyr. Felly roedd y gemau’n dechrau cael eu chwarae ond fe ddywedais i wrth y chwaraewyr jyst i chwerthin a jocian.”

Talu ar ei ganfed

Mae’n ymddangos i chwaraewyr Cymru wneud yn union hynny, gan aros yn amyneddgar yn hytrach na gadael i’r rhwystredigaeth yna gynyddu.

Ac fe dalodd ar ei ganfed, gydag un o’r perfformiadau oddi cartref gorau erioed i’r crysau cochion.

O’r funud gyntaf Cymru oedd ar y droed flaen, gan greu cyfle ar ôl cyfle heb roi siawns i’r Israeliaid o gwbl.

Peniodd Aaron Ramsey’r tîm ar y blaen toc cyn hanner amser, ac ar ôl yr egwyl fe ychwanegodd Gareth Bale ddwy gôl arall, gan gynnwys un gic rydd wych.

Mae Coleman yn hyderus nawr fod gan y tîm y momentwm i orffen yn y ddau safle uchaf a sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

“Roedden ni’n gwybod pa mor fawr oedd y gêm yna ac fe wnes i bwysleisio hynny achos dydw i ddim eisiau i ni ddisgyn yn ôl fel rydyn ni wedi gwneud yn y gorffennol,” meddai Coleman.

“Dydyn ni ddim eisiau i bethau ddisgyn o’n gafael fel y mae wedi gwneud cymaint o weithiau – a dw i ddim yn meddwl y gwnaiff e.

“Mae’n rhaid i ni barhau i chwarae’n dda, mae tipyn gennym ni i fynd eto nes y gallwn ni gyffroi o ddifrif.”

Ben Davies yn ymateb i’r canlyniad yn Haifa: