Fe allai dymuniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i atgyfodi Tîm GB ar gyfer Gemau Olympaidd Rio 2016 fod o dan fygythiad gan awdurdodau’r gêm yn Ewrop.

Roedd yr FA wedi gobeithio anfon tîm pêl-droed dynion a merched i Frasil ar gyfer Gemau’r flwyddyn nesaf ond mae cymdeithasau pêl-droed eraill Prydain wedi gwrthwynebu’r syniad yn chwyrn.

Ac yn ôl y Telegraph mae’n bosib nawr y bydd UEFA yn camu mewn ac atal Tîm GB rhag cael eu ffurfio eto, gan y byddai hynny’n amharu ar Bencampwriaeth dan-21 Ewrop yr haf hwn.

Barod i herio?

Mae’n debyg y bydd cymdeithasau pêl-droed Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn barod i herio Lloegr yr holl ffordd os ydyn nhw’n parhau i geisio sefydlu Tîm GB ar gyfer y Gemau.

Fe gawson nhw eu cynddeiriogi ar ôl i Loegr ysgrifennu atyn nhw yn datgan eu bwriad i gyflwyno tîm, heb hyd yn oed drafod y peth â nhw gyntaf.

Cafodd Tîm GB ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012, ond y ddealltwriaeth ar y pryd oedd mai achlysur arbennig oedd hwnnw ac na fyddai’n cael ei ailadrodd.

Ac fe allai Lloegr benderfynu nad yw e werth iddyn nhw fynd i ffrae fawr gyda gwledydd eraill ynysoedd Prydain am y peth.

Dyw’r gwledydd ddim mor wrthwynebus i dîm merched GB yn cael ei ffurfio, gan fod y Gemau Olympaidd yn un o’r cystadlaethau mwyaf yn eu camp.

Ond pryder mawr Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yw y gallai tîm dynion GB fygwth annibyniaeth eu timau unigol nhw ar gyfer pob cystadleuaeth, rhywbeth sydd ddim werth hi ar gyfer twrnament Olympaidd dan-23 sydd ddim mor bwysig yng ngêm y dynion.

UEFA i atal?

Byddai’n rhaid i unrhyw ymgais i ffurfio Tîm GB ar gyfer Gemau Rio gael eu cymeradwyo gan FIFA, yr awdurdod sydd yn gyfrifol am reoli’r gêm yn rhyngwladol.

Yn ogystal â hynny, fe allai’r corff rheoli Ewropeaidd UEFA atal y tîm rhag cyrraedd y Gemau.

Er mwyn ennill lle i Dîm GB yn y Gemau byddai’n rhaid i dîm Lloegr gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaethau dan-21 Ewrop yr haf hwn yn y Weriniaeth Tsiec.

Ond fe fyddai cael Lloegr yn ymgeisio i gyrraedd y Gemau ar ran Tîm GB yn effeithio ar drefniadau gemau’r twrnament, ac felly mae UEFA wedi mynnu eu bod yn cael gwybod y trefniadau terfynol nawr.

Fe allai cymdeithasau Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban hefyd lobio FIFA i geisio atal sefyllfa o’r fath rhag codi byth eto.

Ar hyn o bryd FA Lloegr sydd â chyfrifoldeb lawn dros unrhyw dîm pêl-droed Prydeinig allai gystadlu mewn Gemau Olympaidd.

Ond petai’r rheol yn cael ei newid i gynnwys yr holl wledydd, fel sydd yn digwydd mewn chwaraeon eraill, fe fyddai ganddyn nhw i gyd feto dros greu Tîm GB yn y dyfodol.