Cymru'n ennill
Mae tîm dan 16 Cymru wedi ennill cystadleuaeth y Victory Shield am y tro cyntaf mewn 66 mlynedd ar ôl buddugoliaeth o 2-0 neithiwr yn erbyn Gogledd Iwerddon.

Sgoriodd Tyler Roberts a Liam Cullen goliau Cymru er mwyn sicrhau fod bechgyn Osian Roberts yn cipio’r tlws am y tro cyntaf ers 1949.

Dim ond gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon oedd ei hangen ar y crysau cochion er mwyn ennill y bencampwriaeth, ar ôl iddyn nhw guro Lloegr a’r Alban mewn gemau cynharach.

Y tîm cryfa’

Fe ddangosodd Cymru pam mai nhw yw tîm cryfaf y gystadleuaeth eleni, wrth i ymosodwr West Brom Tyler Roberts benio’r gôl agoriadol cyn i’r asgellwr Liam Cullen sgorio perl o ail.

Gyda thîm y dynion yn gwneud cystal ar hyn o bryd, fe fydd Osian Roberts a gweddill staff hyfforddi Cymru yn falch o weld bod y genhedlaeth nesaf yn edrych yr un mor ddisglair.