Fe fydd timau cenedlaethol Catalwnia a Gwlad y Basg yn herio’i gilydd ar y cae pêl-droed ym mis Rhagfyr.

Cafodd Catalwnia eu gwahodd gan Wlad y Basg i deithio i stadiwm San Mamés ar Ragfyr 28.

Mae nifer o sêr Barcelona wedi cadarnhau eu bod nhw ar gael i chwarae yn yr ornest, ond dydy chwaraewyr Espanyol ddim wedi ymateb i’r gwahoddiad eto.

Yn draddodiadol, mae Gwlad y Basg yn cynnal gêm gyfeillgar ac fe gafodd Catalwnia wahoddiad wedi i dîm cenedlaethol Wcráin wrthod y gwahoddiad.

Mae nifer o chwaraewyr o Gatalwnia sy’n chwarae i glybiau eraill hefyd wedi derbyn gwahoddiad i chwarae.

Pe bai’r ornest hon yn llwyddiannus, fe allai gêm arall gael ei threfnu ym mis Mai, a’r bwriad yw ei chynnal yn y Camp Nou yn Barcelona.

Dydy’r ddau dîm ddim wedi herio’i gilydd ers 2007 ac fe orffennodd y gêm yn gyfartal 1-1.