Bony a Gomis yn erbyn Villarreal
Alun Rhys Chivers sy’n pwyso a mesur y tymor sydd o flaen Abertawe

Profiad reit annifyr yw gwylio gemau cyfeillgar cyn dechrau tymor pêl-droed go iawn. Yn sicr felly pan ydych chi’n amheus am yr hyn sy’n wynebu eich clwb yn y misoedd i ddod. Dyna’r profiad ges i o wylio’r Elyrch yn herio Villarreal yn y Liberty ddydd Sadwrn diwetha’.

Rhyw hanner ymdrech a gafwyd gan yr 11 ar y cae wrth iddyn nhw golli’n drwm yn erbyn tîm oedd wedi cael canlyniad gwell nag y dylen nhw fod wedi’i gael, gan ennill o 3-0.

Doedd dim sbarc ym mherfformiad Abertawe, dim teimlad fod rhywbeth rhyfeddol am ddigwydd. Mae hynna’n ofid mawr i fi ar drothwy’r daith i herio Man U ar eu tomen eu hunain, er gwaetha sylwadau Lukasz Fabianski yr wythnos hon.

Fe fyddech chi’n disgwyl i’r 11 sy’n dechrau’r gêm gyfeillgar ola’ hefyd ddechrau gêm gynta’r gynghrair – onid rhoi cyfle i’r tîm asio yw’r bwriad erbyn hynny?

Ond dwi wir yn gobeithio y bydd newidiadau erbyn dydd Sadwrn. Roedd y cydbwysedd yn anghywir, a’r amddiffyn mor wan ag erioed. Gadewch i fi graffu’n fanylach:

Fabianski – Dydy golwr ddim ond cystal â’r amddiffynwyr sydd o’i flaen e, medden nhw. Os felly, fe fydd e’n dymor anodd eithriadol i’r golwr newydd ddaeth o Arsenal dros yr haf.

Pan oedd gofyn iddo amddiffyn patrymau gosod, fe wnaeth yn gampus ond pan agorodd y bylchau, doedd fawr o obaith atal y llif. Mawr obeithio y daw amddiffynnwr canol arall i’r Liberty yn fuan.

Amddiffyn

A dyna ddod at yr amddiffynwyr eu hunain. Alla i ddim rhoi’r bai ar unigolion – uned yw’r amddiffynwyr wedi’r cyfan. Ond doedd fawr o dystiolaeth eu bod nhw’n uned yn erbyn Villarreal.

Cyfathrebu yw’r prif wendid ac mae angen penderfynu’n gyflym pwy fydd yn llenwi lle Chico yn y canol. Alla i ddim gweld Kyle Bartley yn camu i’r bwlch yn y tymor hir, a dydy Jordi Amat yn sicr ddim yn ddigon da.

Mae’n ymddangos bod nifer o amddiffynwyr ar restr siopa Garry Monk a’r prif darged, mae’n debyg, yw Federico Fernandez o Napoli – mawr obeithio y daw newyddion da yn fuan. Byddai’r Elyrch yn gorfod talu £7 miliwn am yr Archentwr ond mae’n werth talu’r pris i gael cau’r bwlch yn y canol.

Roedd si hefyd yn ddiweddar bod Adam Matthews ar ei ffordd o Celtic ond digon tawel yw’r trafod erbyn hyn.

Un peth sy’n sicr – fydd gan eilydd Chico ddim yr un statws cwlt ag yr oedd gan y Sbaenwr. Does ond angen darllen ei lythyr agored i’r cefnogwyr i weld pa mor agos oedd ei berthynas gyda’r cefnogwyr.

Oedd, roedd Chico yn danllyd ond hefyd yn feddyliwr craff oedd yn deall ei gapten, Ashley Williams i’r dim. Roedd craciau bach ar adegau ond mae sgidiau Chico yn rhai anferth i’w llenwi.

Felly hefyd sgidiau Ben Davies. Mae gwir angen cryfhau safle’r cefnwr chwith – dwi’n gweld Neil Taylor yn statig braidd ac yn wahanol i’r dull mae’r Elyrch wedi ymgyfarwyddo ag e erbyn hyn.

Bydd gan yr Elyrch Jefferson Montero ar yr asgell chwith o flaen Taylor i gynnig ychydig o gyflymdra a hyblygrwydd. O’r hyn welais i ddydd Sadwrn, mae Montero yn chwim ei draed ac mae’n glyfar o ran ei symudiadau ac yn gallu ffrwyno amddiffynwyr.

Canol y cae

Alla i ddim ond dychmygu y bydd Gylfi Sigurdsson yn ail-hawlio’i le yng nghanol y cae yn hytrach na’r asgell dde lle’r oedd e’n edrych yn anghyfforddus yn erbyn Villarreal.

Byddwn i’n dychmygu mai Wayne Routledge neu Nathan Dyer fydd yn chwarae ar y dde yn ystod y tymor – mae gwir angen eu cyflymdra nhw.

Fel dwi’n ei gweld hi, mi fydd hi’n frwydr yn y canol wedyn am dri lle rhwng Sigurdsson, Jonjo Shelvey, Leon Britton a Ki. Dwi’n tybio y bydd Monk yn cadw at 4-5-1 oni bai bod y bartneriaeth rhwng Wilfried Bony a Bafetimbi Gomis yn y blaen yn profi bod angen dau ymosodwr. 4-4-2 fyddai’r cam naturiol wedyn.

Dwi wir yn teimlo bod angen angor fel Britton yng nghanol cae – roedd ei absenoldeb e’n amlwg ddydd Sadwrn ac fe fydd e allan o’r ornest yn erbyn Man U oherwydd anaf, gwaetha’r modd.

Ymosod

A dyna ni wedi cyrraedd yr ymosodwyr. Roedd digon o achlysuron yn yr ornest ddydd Sadwrn i awgrymu y gallai’r bartneriaeth rhwng Bony a Gomis ddwyn ffrwyth.

Er bod Bony braidd yn araf – diog weithiau, hyd yn oed – mae Gomis yn rhedwr naturiol sy’n gwybod yn union ble mae angen iddo fe fod. Partneriaeth ymosodol yw un o’r elfennau sydd wedi bod ar goll o dîm yr Elyrch ers rhai tymhorau ond fe allai’r ddau yma gynnig dimensiwn newydd i’r tactegau.

Dyma’r tîm y byddwn i’n ei ddewis i herio Man U, gan obeithio y bydd eu trwch nhw’n chwarae’n gyson drwy’r tymor:

Fabianski, Taylor, Williams, Bartley, Rangel, Routledge, Shelvey, Ki, Montero, Bony, Gomis

Dyma ddarogan hefyd sut yn union fydd yr Elyrch yn perfformio yn yr holl gystadlaethau’r tymor yma:

Uwch Gynghrair: 15fed – Fe fydd yn dymor anodd i’r Elyrch a dwi ddim yn eu gweld nhw’n gorffen mor uchel yn y tabl eleni. Serch hynny, maen nhw’n rhy dda i ddisgyn o’r adran.

Cwpan yr FA: 5ed Rownd – Fydd y gystadleuaeth hon ddim yn flaenoriaeth eleni, mae hynny’n sicr. Fe allai fod yn gyfle i Monk wyrdroi’r chwaraewyr a rhoi cyfle i rai o’r chwaraewyr iau.

Cwpan Capital One: Rownd yr wyth olaf – Mae Abertawe wedi ennill y gystadleuaeth hon eisoes, ac fe allai fod yn gyfle i gipio tlws os byddan nhw wedi gwneud yn ddigon da yn y Gynghrair cyn rhediad o gemau cwpan. Ond aros yn y gynghrair, wrth reswm, fydd y flaenoriaeth.