Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi galw ar ei chwaraewyr i fwynhau’r ymgyrch i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Gydag 11 gêm o’r tymor yn weddill mae’r Elyrch yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth. Fe fyddai aros yno yn sicrhau dyrchafiad awtomatig i brif gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

“Mae’n rhaid peidio bod yn fyrbwyll a pharhau i wneud yr hyn r’yn ni wedi ei wneud mor dda yn ystod y tymor,” meddai Brendan Rodgers.

“Mae’n rhaid i ni fwynhau’r profiad. Mae’r pwysau ar y clybiau rheini sydd â disgwyliadau mawr ar ôl gwario llawer o arian.

“Beth bynnag sy’n digwydd y tymor hwn, mae fy chwaraewyr wedi bod yn wych. Daethon nhw i’r clwb dros yr haf gyda’r nod o gadw’r clwb yn y Bencampwriaeth.

“R’yn ni wedi cyflawni hynny a’r brif her i ni nawr yw mwynhau’r ymgyrch a pharhau i ennill.”

Mae rheolwr Abertawe wedi dweud nad yw’n disgwyl gwneud llawer o newidiadau i’r tîm a fydd yn wynebu Watford yn Stadiwm Liberty heno.

Daeth hwb i obeithion yr Elyrch gyda’r newyddion fod eu capten, Garry Monk, Andrea Orlandi a Tom Butler wedi dechrau ymarfer unwaith eto, ond does dim disgwyl i’r un ohonynt chwarae yn erbyn Watford.