Dave Jones
Mae Caerdydd wedi arwyddo eu hail olwr mewn dau ddiwrnod ar ôl i Stephen Bywater ymuno â nhw heddiw.

Mae Bywater yn ymuno â thîm Dave Jones ar fenthyg o Derby County, a hynny am yr eildro yn ei yrfa wedi iddo fod ar fenthyg gyda thîm y brifddinas nôl yn 2002.

Mae’r cytundeb y tro hwn yn cynnwys cymal sy’n golygu y bydd modd i Bywater ddychwelyd i Derby ar rybudd 24 awr petai angen.

Brown eisoes wedi ymuno

Fe ymunodd y Cymro Jason Brown â Chaerdydd ddoe, a hynny ar fenthyg o Blackburn Rovers tan ddiwedd y tymor.

Fe gyhoeddodd y golwr ar ei gyfrif Twitter ei fod yn edrych ‘mlaen mynd i Gaerdydd.

Argyfwng gôl geidwaid

Mae’r Adar Glas wedi bod yn chwilio am olwr dros dro oherwydd anafiadau i David Marshall a Tom Heaton.

Ni fydd Marshall yn chwarae eto’r tymor hwn oherwydd bod angen llawdriniaeth ar ei benelin tra bod Heaton wedi anafu ei werddyr.

Roedd Caerdydd wedi ceisio arwyddo golwr Lloegr, Chris Kirkland ar fenthyg, ond methwyd a dod i gytundeb â’i glwb Wigan.

Cyfle da i Brown

Fe fydd Jason Brown yn awyddus i gymryd ei gyfle i chwarae pêl-droed tîm cyntaf cyson ar ôl i’w gyfleoedd yn Ewood Park cael eu cyfyngu. Mae’n debygol y bydd hefyd yn awyddus i greu argraff er mwyn sicrhau cytundeb llawn ar ddiwedd y tymor.

Mae eisoes wedi bod ar gytundebau benthyg gyda Leeds Utd a Leyton Orient y tymor hwn ac mae ei gytundeb presennol gyda Blackburn yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Bydd Brown, sy’n 28 oed, hefyd yn gobeithio y bydd symud i Gaerdydd yn helpu ei obeithion i ennill crys rhif 1 tîm cenedlaethol Cymru.

Roedd yn eilydd i Wayne Hennessey wrth i Gymru herio Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn fis diwethaf, ond ni chafodd y cyfle i ychwanegu at ei ddau gap hyd yn hyn.

Mae’n annhebygol y bydd Brown yn llwyddo i ddisodli Hennessey sy’n chwarae’n rheolaidd i Wolves yn Uwch Gynghrair Lloegr eleni, ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddiwedd y mis. Er hynny, gyda Boaz Myhill yn methu cael ei le yn nhîm West Brom byddai chwarae’n rheolaidd yn helpu ei achos i gael lle ar y fainc.