Casnewydd 1 – 1 Caergrawnt
Mae Casnewydd yn parhau heb fuddugoliaeth yn 2011 ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Caergrawnt ar Barc Spytty.
Mae tîm Tim Harris heb ennill mewn 12 gêm a dyma oedd eu pumed gêm gyfartal yn y chwech diweddaraf.
Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi naw munud pan aeth ergyd Simon Russell i gornel y rhwyd.
Ond fe darodd Casnewydd ‘nôl yn yr ail hanner pan lwyddodd Jamie Collins gyda chic o’r smotyn ar ôl i olwr Caergrawnt, Simon Brown, gael ei gosbi am wthio Robbie Matthews.
Mae Casnewydd yn y degfed safle yn Uwch Gynghrair Blue Sqaure ar hyn o bryd, deg pwynt yn bron o le ymysg safleoedd y gemau ail gyfle.