ry
Y gorau - Giggs
Mae dau o’r chwaraewyr a gymerodd ran yng ngêm fawr gynta’ Ryan Giggs yn dweud mai ef yw’r chwaraewr gorau erioed ym Manchester United.

Ddoe, roedd y chwaraewr canol cae’n dathlu 20 mlynedd ers chwarae am y tro cynta’ i’r tîm o Fanceinion.

Er bod United wedi colli i Chelsea ac mai carden felen oedd ei unig anrheg, mae cefnogwyr, y cyfryngau a chyd-chwaraewyr i gyd wedi bod yn talu teyrngedau i’r Cymro.

Ymlaen … ac ymlaen

Yn ôl Clayton Blackmore a Kevin Ratcliffe – dau Gymro arall a oedd yn y gêm gynta’ honno yn erbyn Everton – Giggs yw’r gorau erioed i chwarae i Man Utd.

Fe ddywedodd y ddau wrth Radio Wales ei fod yn arbennig oherwydd ei allu i chwarae ar y lefel ucha’ am gyhyd, a hynny i un o dimau gorau’r byd.

Roedd Ratcliffe, a oedd yn chwarae i Everton yn 1991, yn cofio Giggs yn dod i’r cae yn grwt 17 oed, “fel styllen o denau”.

Yn ôl Blackmore, a oedd yn nhîm United, doedd yna ddim amheuaeth o gwbl mai Giggs oedd y gorau erioed.

Dwy ffaith: Mae Giggs wedi ennill mwy o anrhydeddau nag unrhyw chwaraewr arall yn y gem yn Lloegr ac wedi sgorio ym mhob un o dymhorau’r Uwch Gynghrair yno.