Aaron Ramsey
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi dweud y bydd y clwb yn ceisio arwyddo Aaron Ramsey ar gytundeb benthyg arall ar ôl i’r Cymro ddychwelyd i Arsenal.

Bu’n rhaid i’r Cymro adael Caerdydd yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Hull ddydd Sadwrn ar ôl i reolwr Arsenal, Arsene Wenger, ei alw’n ôl i’r Stadiwm Emirates.

Ond mae rheolwr yr Adar Glas am geisio denu Ramsey yn ôl i Stadiwm Dinas Caerdydd i helpu gyda’r frwydr i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

“Mae Arsene wedi ei alw o yn ôl, ond fe fyddwn ni’n parhau i ymdrechu,” meddai Jones wrth bapur y Western Mail.

“Fe fyddwn ni’n parhau i ofyn am Aaron ac fe gawn ni weld. Fe fydd Aaron yn cael sgwrs gydag Arsene hefyd.

“Mae Aaron eisiau aros gyda ni os na fydd yn chwarae i Arsenal.  Dw i ddim yn credu ei fod yn ôl ar ei orau ac mae Aaron yn teimlo’r un fath.

“Yr unig ffordd y mae o’n mynd i fod ‘nôl ar ei orau ydi trwy chwarae.”

Golwr newydd

Mae Caerdydd wedi arwyddo golwr Wigan, Chris Kirkland, ar gytundeb benthyg tan ddiwedd y tymor oherwydd problemau ffitrwydd golwyr eraill yr Adar Glas.

Ni fydd yr Albanwr, David Marshall, yn chwarae eto’r tymor hwn oherwydd bod angen llawdriniaeth ar ei benelin arno.

Mae golwr arall Caerdydd, Tom Heaton, yn dioddef gyda phroblem i’w werddyr.

Fe allai hyn olygu y bydd Chris Kirkland yn chwarae ei gêm gyntaf i Gaerdydd yn erbyn Ipswich ddydd Sadwrn nesaf.