Mae Abertawe wedi cryfhau eu gobeithion am ddyrchafiad i’r uwch-gynghrair ar ôl buddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn Leeds y prynhawn yma.

Fe sgoriodd Scott Sinclair ddwy gôl – y naill yn yr hanner cyntaf a’r llall yn yr ail hanner – ac ychwanegwyd atyn nhw gan gôl Luke Moore.

Golyga hyn fod yr Elyrch bellach bedwar pwynt ar y blaen i Gaerdydd, sydd yn y trydydd safle yng nghynghrair Pencampwriaeth npower.

O ddal ati fel hyn fe fydd Abertawe’n ennill dyrchafiad awtomatig i’r uwch-gynghrair.