Mae Manchester City wedi rhoi’r sac i’w rheolwr Roberto Mancini, cyhoeddodd y clwb neithiwr.

Daeth y newyddion wedi dyddiau o ddyfalu dros ddyfodol yr Eidalwr – flwyddyn yn unig wedi iddo arwain y tim i’r brig yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Cadarnhaodd y clwb mewn datganiad bod y gwr 48-mlwydd-oed wedi cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau ar ôl methu â chyflawni “targedau” y tymor hwn.

Bydd y rheolwr cynorthwyol Brian Kidd, yn cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro ar gyfer dwy gêm ola’r tymor, yn erbyn Reading a Norwich, a thaith haf Manchester City i’r Unol Daleithiau.

Hyfforddwr Malaga, Manuel Pellegrini, yw’r ffefryn i gymryd lle Roberto Mancini.

Dywedodd datganiad y clwb: “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd i’r perchennog, y cadeirydd a’r bwrdd ac mae’n ganlyniad o broses adolygu diwedd tymor sydd wedi cael ei wneud yn sgil y  dyfalu diweddar ac allan o barch tuag at Roberto a’i gyfraniad helaeth i’r clwb pêl-droed.”