Mae yna sôn bod Clwb Criced Morgannwg am arwyddo ei cyn chwaraewr Shaun Marsh ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd.

Ar ol cael ei alw yn ôl i garfan ugain pelawd Awstralia i herio Sri Lanka, mae hyfforddwr Morgannwg wedi datgelu ei fod wedi siarad gyda Marsh, ond hefyd bod y sir yn ystyried arwyddo bowliwr cyflym gyda chwaraewyr fel Dirk Nannes, Brett Lee a Shaun Tait mewn golwg.

Yn barod mae Morgannwg wedi arwyddo Michael Hogan o Awstralia a Murray Goodwin o Zimbabwe.