Mae Andrew Strauss, 35 oed, wedi ymddeol o fyd criced ar bob lefel.

Roedd Strauss wedi arwain ei wlad 50 gwaith allan o 100 prawf, ac am drosglwyddo’r awenau i Alastair Cook ar gyfer y gemau un dydd.

‘‘Dwi i heb fod yn hapus gyda’m perfformiad am gyfnod hir nawr, rwy’n credu ei bod yn bryd i mi orffen,’’ meddai  Strauss.

Sgoriodd Strauss 7,037 o rediadau yn y gemau Prawf a chyfartaledd o 40.91, gan ei wneud y nawfed chwaraewr a’r rhediadau mwyaf yn hanes Lloegr.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, Lloegr oedd y tîm Prawf gorau yn y byd am y tro cyntaf erioed.