Mae Morgannwg wedi cadarnhau fod eu prif hyfforddwr yn aros gyda’r sir ar ôl methu â chael swydd hyfforddwr Seland Newydd.

Roedd Morgannwg wedi caniatáu i Matthew Mott gael ei gyfweld ar gyfer swydd gyda’r Capiau Duon, a dywed Prif Weithredwr Morgannwg eu bod nhw’n hapus i ddal gafael ar eu hyfforddwr.

“Gallwn ni ganolbwyntio nawr ar weddill y tymor a’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf,” meddai Alan Hamer.

Dywedodd yr Awstraliad Matthew Mott fod ganddo ddyhead i hyfforddi ar lefel ryngwladol a’i fod nawr yn ymrwymo cant-y-cant i ddod â llwyddiant i’r clwb.

Tra roedd Matthew Mott yn cael ei gyfweld gan Seland Newydd enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn y gynghrair eleni , yn erbyn Swydd Northampton.