Jim Allenby - 67 heb fod allan
Enillodd Morgannwg eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth ddoe wrth iddyn nhw guro Swydd Northampton ar eu tomen eu hunain.

Hwn oedd y trydydd tro yn hanes y clwb iddyn nhw ennill ar ôl cwrso sgôr dros 350.

Ildiodd y ddau dîm eu batiad cyntaf er mwyn mentro am fuddugoliaeth.

Sgoriodd y tîm cartref 350-5 cyn cau’r batiad tra bod David Sales yn dal wrth y llain â sgôr o 138.

Roedd gan Forgannwg 90 pelawd i gwrso 351, gyda Marcus North (73) a Mark Wallace (54) yn cyfrannu at y nod, cyn i Jim Allenby (67 heb fod allan) sicrhau’r fuddugoliaeth gyda phum pelen o’r batiad yn weddill.