Mae Clwb Criced Morgannwg wedi datgan fod ei gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon nos fory wedi ei gohirio er parch i’r diweddar Tom Maynard.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb, “Yn dilyn trafodaethau rhwng y chwaraewyr a’r hyfforddwyr, mae Clwb Criced Morgannwg yn cyhoeddi fod y gêm Friends Life t20 yn erbyn Swydd Gaerwrangon yfory wedi ei gohirio fel arwydd o barch tuag at Tom Maynard a’i deulu.

“Hoffai’r clwb ddiolch i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn ogystal â Chlwb Criced Swydd Gaerwrangon am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth ar y mater.”

Yn y cyfamser, mae’r gêm wedi cael ei ail-threfnu ar gyfer ddydd Mawrth, 3 Gorffennaf am 6yh.