Mae’r byd criced wedi talu teyrnged i un o gyn-chwaraewyr Essex a Lloegr, Trevor Bailey a fu farw heddiw wedi tân yn ei gartref. 

Fe gafodd Trevor Bailey ei ganfod yn farw gan ddiffoddwyr tân yn ei fflat yn Westcliff ychydig wedi 6.00 y bore. 

Fe gafodd ei wraig, Greta, ei hachub ac roedd angen triniaeth arni yn yr ysbyty.  Mae ymchwiliadau wedi dechrau i ganfod achos y tân. 

61 cap

Fe enillodd Trevor Bailey 61 cap dros Loegr rhwng 1949 a 1959 ac fe chwaraeodd 682 o gemau i Essex dros ugain mlynedd.  Roedd hefyd wedi mynd ‘mlaen i sylwebu ar raglen radio Test Match Special ar ôl gorffen chwarae. 

“Roedd Trevor Bailey nid yn unig yn un o chwaraewyr amryddawn gorau mae’r wlad yma wedi cynhyrchu, ond hefyd yn berson oedd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r gêm yn weinyddwr, ysgrifennwr a darlledwr,” meddai cadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Giles Clarke. 

Fe nododd llywydd Clwb Criced Essex, Doug Insole ei gyfeillgarwch gyda Trevor Bailey. 

“Roeddwn ni’n ffrindiau da gyda Trevor am dros 60 mlynedd.  Roedden ni wedi chwarae pêl droed a chriced gyda Phrifysgol Caergrawnt yn ogystal ag Essex am 15 mlynedd,” meddai Doug Insole. 

“Roedd Trevor yn chwaraewr cryf iawn yn nhîm Lloegr yn y 1950au.  Doedd neb fel ef.”