Simon Jones
Mae’r bowliwr cyflym, Simon Jones, yn dod yn ôl gartre’ wrth arwyddo cytundeb dwy flynedd i Forgannwg.

Heddiw y bydd y clwb yn cyhoeddi’n swyddogol fod y bowliwr o Lanelli’n dod yn ôl i’r sir lle dechreuodd ei yrfa.

Roedd wedi treulio chwech wythnos gyda Morgannwg y llynedd hefyd, ar fenthyg o Hamphsire. Fe chwaraeodd mewn gêmau Ugain20 a chymryd 13 o wicedi.

Ar un adeg, Simon Jones oedd bowliwr cyflym gorau gwledydd Prydain, gan helpu Lloegr i gipio’r Lludw yn erbyn Awstralia yn 2005.

Ar ôl hynny, fe ddioddefodd gyfres o anafiadau.

Dywedodd Simon, sy’n 32 oed, “Rwy’n falch iawn cael ymuno â Morgannwg. Mae’r clwb criced wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd a’r bwriad nawr yw helpu’r clwb i lwyddo yn y ddwy flynedd nesaf ac i chwarae’n rheolaidd. Ar ôl treulio pedair blynedd hapus dros y ffin, mae’n braf cael ddychwelyd adref i Gymry a bod yn agos i deulu a ffrindiau.

“Mae’r tymhorau diwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn imi fel chwaraewr oherwydd anafiadau ac rwy’n falch iawn i allu rhoi’r cyfnod hwnnw tu cefn ifi. Hefyd, mae chwarae i Loegr eto yn freuddwyd ac rwy’n hyderus fod gen i’r gallu a’r sgiliau i brofi fy hun ar y lefel uchaf posib eto ac i brofi ambell berson yn anghywir.”

Ychwanegodd Colin Metson, Rheolwr Gyfarwyddwr Criced Morgannwg, “Rydym yn hapus iawn i groesawu Simon Jones nôl i Glwb Criced Morgannwg. Fe wnaeth argraff fawr arnom ni ar y cae ac oddi arni pan ddaeth ar fenthyg o Hampshire yn gynharach eleni ac rydym yn falch iawn o’i gael yn ôl yn barhaol yn Stadiwm Swalec.”