Fe fydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio anghofio am y grasfa gawson nhw gan Surrey ar yr Oval neithiwr, wrth iddyn nhw groesawu Middlesex i gae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast heno (nos Wener, Gorffennaf 26).

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill yr un o’u tair gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, ac fe ddaeth eu hunig bwynt ar ôl i’r gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham ddirwyn i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

Mae Matthew Maynard, y prif hyfforddwr, wedi cyhoeddi carfan o 13 o chwaraewyr ar gyfer y gêm, a’r unig newid yw fod y bowliwr cyflym Michael Hogan allan ar ôl anafu ei goes ar yr Oval, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 44 a cholli’r gêm o 97 o rediadau.

Mae disgwyl i’r Cymro Lukas Carey gymryd ei le yn y tîm.

Er y grasfa, bydd Morgannwg yn gobeithio y gall eu bowlwyr danio eto yn erbyn tîm y Saeson a allai gynnwys AB de Villiers o Dde Affrica a batiwr Lloegr, Dawid Malan.

Daeth un o’r ychydig berfformiadau clodwiw neithiwr gan y troellwr Andrew Salter, a gipiodd bedair wiced am 23, ei ffigurau gorau erioed mewn gêm ugain pelawd.

 Ymateb i’r golled

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n wych yn ystod hanner cynta’r gêm,” meddai Matthew Maynard.

“Ro’n i’n meddwl bod ein bowlio a’n maesu yn ardderchog i’w cyfyngu nhw i 140 a weithiau, mae’r fath sgôr yn fwy anodd i’w gwrso na sgôr enfawr.

“Roedd yn un o’r diwrnodau hynny gewch chi yn y byd criced a chwaraeon weithiau, na allwch chi bob amser mo’u hegluro nhw.

“Dydy cael eich bowlio allan am tua 40 fyth yn wych, ond mae angen i ni ddal ati.

“Mae gyda ni gyfle da i wneud yn iawn am hynny. Wnawn ni ddod yn ôl at ein gilydd a rhoi cynnig arall arni.”

 Y gwrthwynebwyr

Bydd Morgannwg yn wynebu tîm Middlesex a gollodd eu record 100% yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham ddoe.

Doedd AB de Villiers ddim ar gael ar gyfer y gêm ar ôl anafu ei fys, ond mae e wedi’i enwi yn y garfan i herio Morgannwg, a’r disgwyl yw y bydd yn holliach i chwarae, sy’n golygu y gallai Morgannwg fod yn wynebu un o’r batwyr ugain pelawd mwyaf dinistriol yn y byd.

Ymhlith y chwaraewyr eraill i gadw llygad arnyn nhw mae Stevie Eskinazi, a darodd 40 yn Cheltenham, ac fe greodd Dan Lincoln argraff yn ei gêm gyntaf i’r sir, wrth daro 30 oddi ar 24 o belenni.

Yn ogystal, tarodd y wicedwr John Simpson 42 oddi ar 29 o belenni tua diwedd y batiad.

Byddai buddugoliaeth dros Forgannwg, eu trydedd gêm oddi cartref yn olynol, yn golygu chwe phwynt allan o wyth yn eu pedair gêm gyntaf.

Tra bod Morgannwg ar waelod y tabl, mae Middlesex yn ail y tu ôl i Swydd Gaint ar sail cyfradd sgorio net.

Mae ambell wyneb cyfarwydd yn y garfan, sef James Harris, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, a Tom Helm, sydd wedi chwarae ar fenthyg i’r sir Gymreig mewn dau dymor gwahanol.

Y gêm flaenorol

Y tro diwethaf i Forgannwg herio Middlesex mewn gêm ugain pelawd yng Nghaerdydd, yn 2017, fe guron nhw’r Saeson o saith wiced i sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Aethon nhw yn eu blaenau i ennill yn erbyn Swydd Gaerlŷr i gyrraedd Diwrnod y Ffeinals, lle collon nhw yn erbyn Swydd Warwick yn y rownd gyn-derfynol yn Edgbaston.

Carfan Morgannwg: K Carlson, J Lawlor, G Wagg, L Carey, A Salter, O Morgan, Fakhar Zaman, C Ingram (capten), C Cooke, B Root, D Lloyd, D Douthwaite, M de Lange

Carfan Middlesex: D Malan (capten), T Barber, AB de Villiers, S Eskinazi, S Finn, N Gubbins, J Harris, T Helm, M Holden, D Lincoln, T Roland-Jones, G Scott, J Simpson, N Sowter, Mujeeb ur Rahman