Bydd Middlesex yn dechrau ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Radlett ar 151 am dair, ar ôl i Sam Robson daro 85 heb fod allan ar y diwrnod cyntaf ddoe (dydd Sul, Mehefin 16).

Dyma’i sgôr dosbarth cyntaf gorau y tymor hwn, ac mae’n dilyn y 79 sgoriodd e yn erbyn Morgannwg yn gynharach yn y tymor.

Dim ond 51 o belawdau oedd yn bosib oherwydd y glaw, ac fe gafodd Middlesex eu gwahodd i fatio.

Doedd dim criced tan 3 o’r gloch, ac fe fyddai Morgannwg wedi gobeithio am ragor o lwyddiant gyda’r bêl.

Goroesodd Stevie Eskinazi sawl gwaedd am goes o flaen y wiced ac fe gafodd ei ollwng ar 15 gan Charlie Hemphrey, ond tarodd David Lloyd ei goes o flaen y wiced am 31 gyda’r belen olaf cyn amser te.

Roedd ei bartneriaeth e a Sam Robson am y wiced gyntaf yn werth 77.

Roedden nhw 92 am ddwy pan darodd Graham Wagg goes Nick Gubbins o flaen y wiced am bump.

Y capten Dawid Malan oedd y trydydd batiwr allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Marchant de Lange am 20.

Cyrhaeddodd Sam Robson ei hanner canred oddi ar 95 o belenni.

Sgorfwrdd