Cyn-gapten Clwb Criced Morgannwg, Mark Wallace yw Cyfarwyddwr Criced newydd y sir.

Mae’n olynu Hugh Morris, oedd wedi rhoi’r gorau i’r swydd yn dilyn adolygiad annibynnol o’r sir, ond sy’n parhau’n Brif Weithredwr.

Bydd yn dechrau yn y swydd ar Chwefror 1.

“Rwy wrth fy modd o gael y cyfle i ddychwelyd i Forgannwg ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda charfan ifanc o chwaraewyr, ac ochr yn ochr â thîm hyfforddi talentog,” meddai Mark Wallace.

“Fodd bynnag, fydd hyn ddim yn fater o gydweithio’n agos â’r tîm cyntaf yn unig.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf o’n hadnoddau, ac mae hynny’n golygu gwella criced yng Nghymru’n gyffredinol a meithrin perthnasau agosach gyda chlybiau a Phrifysgolion Caerdydd yr MCC.

“Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r PCA am bopeth maen nhw wedi’i wneud i fi ac mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad dysgu gwych o fewn sefydliad o’r radd flaenaf.

“Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd y tu allan i Forgannwg, rwy’n credu y galla i ddod i mewn i’r clwb gyda syniadau newydd a phersbectif ffres i symud y clwb yn y cyfeiriad cywir.”

Gyrfa

Fe fu’r cyn-wicedwr yn gweithio i Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) ers ymddeol ar ddiwedd tymor 2016.

Fe dreuliodd 18 o flynyddoedd yn chwarae i dîm cyntaf Morgannwg, ac yn gapten o 2013 i 2015.

Fe chwaraeodd e mewn 264 o gemau dosbarth cyntaf, gan sgorio 15,429 o rediadau ym mhob fformat, gan gynnwys 17 canred a 944 o ddaliadau.

Roedd yn gadeirydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol tra ei fod yn chwarae, cyn derbyn swydd gyda nhw’n ddiweddarach.

Mae wedi cymhwyso fel Hyfforddwr Lefel 4 gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, ac mae ganddo fe radd Meistr mewn Chwaraeon, Diwylliant a Chymdeithas o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.