Mae tîm criced Morgannwg wedi gorffen y tymor gyda buddugoliaeth swmpus o 132 o rediadau dros Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd – eu hail fuddugoliaeth yn unig yn y Bencampwriaeth.

Dyma’u buddugoliaeth gyntaf yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 16 o gemau a thair blynedd a hanner. Doedden nhw ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth yn unman ers gêm gynta’r tymor ym mis Ebrill, pan guron nhw Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Roedd y Saeson yn cwrso 403 i ennill ar y trydydd diwrnod, ond cawson nhw eu bowlio allan am 270.

Manylion

Wrth ddechrau’r trydydd diwrnod ar 106 am bedair, roedd gan Forgannwg fantais o 333 yn eu hail fatiad.

Ond yr un hen stori oedd hi eto i’r batwyr wrth iddyn nhw golli eu chwe wiced olaf am 69 rhediad yn ystod y trydydd bore, a chael eu bowlio allan am 175 i osod nod o 403 i’r Saeson ennill.

Yr unig fatiwr a gyfrannodd yn helaeth oedd Chris Cooke, wrth iddo gael ei fowlio gan Tom Taylor am 45. Yn ei gêm gyntaf i’r Saeson, gorffennodd Tom Taylor gyda phedair wiced am 15 yn yr ail fatiad, a dwy wiced am 77 yn y batiad cyntaf.

Y Saeson yn cwrso – ond yn colli wicedi

Wrth gwrso 403 i ennill, doedd hi ddim yn hir cyn i Swydd Gaerlŷr ganfod eu hunain mewn dyfroedd dyfnion.

Roedden nhw’n bedwar am ddwy ar ôl i’r capten Michael Hogan daro coes Ateeq Javid o flaen y wiced, a Timm van der Gugten yn taro coes Colin Ackermann o flaen y wiced dair pelawd yn ddiweddarach.

Cwympodd y drydedd wiced ar 23 pan gafodd Sam Evans ei ddal gan Kieran Bull yn y slip oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Ar yr un sgôr yn y belawd ganlynol, ergydiodd cyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove oddi ar ei goesau a darganfod dwylo diogel Jack Murphy ar ochr y goes i roi ail wiced yn y batiad i Michael Hogan.

Lewis Hill oedd y batiwr nesaf allan, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Craig Meschede am 13, a’r sgôr yn 42 am bump.

Partneriaethau yn ofer

Adeiladodd Harry Dearden a Tom Taylor bartneriaeth o 30 am y chweched wiced ond roedd yr ysgrifen eisoes ar y mur i’r Saeson cyn i Harry Dearden gael ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Craig Meschede am 24.

Tom Taylor oedd y seithfed batiwr allan, wrth iddo roi daliad syml i Stephen Cook yn y slip oddi ar fowlio Michael Hogan am 26, a’r sgôr erbyn hynny’n 92 am saith.

Roedden nhw’n 102 am wyth pan gafodd Ben Mike ei ddal ar y ffin ar ochr y goes wrth ergydio i lawr corn gwddf Jeremy Lawlor oddi ar fowlio Kieran Bull am wyth.

Ond adeiladodd Callum Parkinson a Dieter Klein bartneriaeth ddi-guro o 59 i ymestyn yr ornest am ychydig wrth iddyn nhw gyrraedd 161 am wyth erbyn amser te.

Roedd y bartneriaeth yn werth 72 yn y pen draw, cyn i Callum Parkinson gael ei fowlio gan Michael Hogan am 31, a’r sgôr yn 174 am naw. Ond aeth Dieter Klein yn ei flaen i sgorio’i hanner canred cyntaf i’r sir, oddi ar 65 o belenni, ar ôl taro 10 pedwar.

Gallai’r ornest – a’r tymor – fod wedi dod i ben pan roddodd Gavin Griffiths gyfle am ddaliad i Stephen Cook yn y slip tra ei fod e ar 15 gyda’r sgôr ar 207 am naw, ond fe ollyngodd y maeswr ei afael ar y bêl.

Un bartneriaeth fawr olaf

Aeth Gavin Griffiths a Dieter Klein yn eu blaenau i adeiladu partneriaeth wiced olaf o 96, ac roedd Dieter Klein allan am 94 yn y pen draw ar ôl i Timm van der Gugten daro’i goes o flaen y wiced.

Gorffennodd Michael Hogan gyda phedair wiced am 30, a Timm van der Gugten gyda thair wiced am 63.