Mae Morgannwg yn 16 am un ar ddechrau’r trydydd diwrnod yn Derby wrth iddyn nhw gwrso 302 i sicrhau buddugoliaeth annhebygol dros Swydd Derby yn eu gêm Bencampwriaeth.

Dydi Morgannwg ddim wedi ennill ers gêm gynta’r tymor, ac fe fydd angen iddyn nhw sgorio 286 yn rhagor er mwyn osgoi colli eu seithfed gêm yn olynol yn y gystadleuaeth.

Dim ond pum pelawd oedd angen i’r Cymry eu goroesi ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, ond fe gollon nhw’r batiwr tramor Stephen Cook yn y belawd olaf wrth iddo fe gael ei fowlio gan Tony Palladino.

Crynodeb

Dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 20 heb golli wiced yn eu batiad cyntaf, cyn i 21 o wicedi gwympo yn ystod y dydd.

Cipiodd Tony Palladino chwe wiced am 29 o fewn 13 pelawd, gan gynnwys ei dri chanfed wiced mewn gemau dosbarth cyntaf, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 121 ar ôl bod yn 83 am ddwy, a cholli wyth wiced ola’r batiad am 38.

Roedd y Cymry ar ei hôl hi o 130 ar ddiwedd y batiad cyntaf, felly, cyn bowlio Swydd Derby allan am 171, wrth i Alex Hughes gynnig parchusrwydd i fatiad y Saeson gyda 57.

Wiced ar ôl wiced

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf ar 29, wrth i Connor Brown gael ei fowlio gan iorcer Lockie Ferguson am 14 ar ddiwedd y drydedd belawd ar ddeg.

Dilynodd Stephen Cook yn fuan wedyn, wrth gael ei ddal gan Gary Wilson yn y slip oddi ar fowlio Ravi Rampul am naw.

Llwyddodd Kiran Carlson a Tom Cullen, yn ei gêm gyntaf i’r sir, i sefydlogi’r batiad rywfaint wrth adeiladu partneriaeth o 40 am y drydedd wiced, cyn i Kiran Carlson dynnu pelen gan Tony Palladino at Martin Andersson yn safle’r goes fain, a Morgannwg yn 83 am dair.

Ond collon nhw bedair wiced arall cyn cinio am 11 rhediad o fewn saith pelawd i’w gadael nhw mewn trafferthion mawr ar 94 am saith erbyn diwedd y sesiwn. Tom Cullen, Chris Cooke, Graham Wagg a Ruaidhri Smith oedd y pedwar batiwr allan yn ystod y cyfnod hwnnw.

Sesiwn y prynhawn

Ond fe ddigwyddodd yr anochel ar ddechrau’r prynhawn, wrth i Forgannwg golli eu tair wiced olaf, gan osgoi gorfod canlyn ymlaen o drwch blewyn.

Cafodd Timm van der Gugten ei fowlio gan Tony Palladino am naw, cyn i David Lloyd gael ei ddal gan Gary Wilson yn y slip oddi ar yr un bowliwr am 25 – sgôr unigol gorau’r batiad.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 121 am naw, ac fe ddaeth y batiad i ben pan gafodd Kieran Bull ei fowlio gan Lockie Ferguson, a Morgannwg i gyd allan.

Ail fatiad Swydd Derby

Ar ôl sgorio 95 yn y batiad cyntaf, cafodd capten Swydd Derby, Billy Godleman ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten heb sgorio, a’r Saeson yn bump am un ar ddiwedd y drydedd belawd.

Roedden nhw’n 29 am ddwy ar ôl naw pelawd pan darodd Timm van der Gugten ymyl bat Wayne Madsen a’i fowlio am 14, ac roedd hi’n edrych yn debygol y gallai Swydd Derby wynebu’r un heriau â batwyr Morgannwg.

Tarodd David Lloyd goes Tom Lace o flaen y wiced am 24 toc cyn te.

Ond fe gyrhaeddodd Alex Hughes ei hanner canred y pen arall oddi ar 79 o belenni wrth i fantais y Saeson fynd y tu hwnt i 200, er iddyn nhw golli Gary Wilson a Matt Critchley mewn pelawdau olynol gan y troellwr Kieran Bull. Cafodd y naill ei ddal gan Michael Hogan a’r llall gan Connor Brown.

Erbyn hynny, roedden nhw’n 101 am bump ac fe gollon nhw’r dair wiced ganlynol am bump rhediad, wrth ffarwelio ag Alex Hughes, Martin Andersson a Tony Palladino o fewn tair pelawd.

Roedd Swydd Derby i gyd allan yn y pen draw am 171, gan osod nod o 302 i Forgannwg ennill. Cipiodd Kieran Bull dair wiced am 36.

Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn annhebygol cyn dechrau ail fatiad Morgannwg, gan nad ydyn nhw wedi sgorio mwy na 265 yn eu tair gêm ddiwethaf.

Sgorfwrdd