Mae Morgannwg wedi colli o fatiad a 35 o rediadau yn erbyn Swydd Warwick yn eu gêm Bencampwriaeth flynyddol yn Llandrillo yn Rhos – y trydydd tro yn olynol iddyn nhw golli o fatiad a mwy.

Cipiodd Jeetan Patel saith wiced am 83 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 265 yn ystod sesiwn ola’r trydydd diwrnod. Fe gipiodd ei 800fed wiced dosbarth cyntaf yn ystod y batiad.

Mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ers gêm gynta’r tymor yn erbyn Swydd Gaerloyw, ac wedi colli saith allan o wyth gêm yn y gystadleuaeth eleni.

Maen nhw’n dal i fod heb nifer sylweddol o chwaraewyr profiadol ar ôl colli dau fatiwr tramor oherwydd anafiadau, ac yn dibynnu’n helaeth ar chwaraewyr ifainc o Gymru yn unol â’u polisi swyddogol.

Manylion

Ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod ar 445 am wyth, collodd Swydd Warwick eu dwy wiced olaf o fewn 11 pelawd ac ychydig dros hanner awr, gan ychwanegu 58 rhediad at eu cyfanswm.

Cafodd Keith Barker ei ddal gan Michael Hogan oddi ar fowlio’r troellwr Andrew Salter am 58, cyn i Ruaidhri Smith daro coes Ryan Sidebottom o flaen y wiced am tri, a’r Saeson i gyd allan am 503.

Dechreuodd Morgannwg eu hail fatiad union 300 o rediadau y tu ôl i Swydd Warwick, a doedd hi ddim yn hir cyn iddyn nhw golli eu wiced gyntaf, pan darodd Ryan Sidebottom goes Jack Murphy o flaen y wiced am wyth, a Morgannwg yn naw am un.

Roedden nhw’n 41 am un erbyn amser cinio wrth i Connor Brown a Nick Selman sefydlogi’r batiad, ond roedd tipyn o waith i’w wneud eto gyda’r Cymry ar ei hôl hi o 259 o hyd. Ond o fewn dim o dro, cafodd Connor Brown ei fowlio gan Keith Barker am 33, a Morgannwg yn 60 am ddwy.

Roedden nhw’n 81 am dair pan gafodd Nick Selman ei ddal gan Ian Bell yn maesu’n agos ar yr ochr agored oddi ar fowlio’r troellwr Jeetan Patel am 14, a Morgannwg yn dechrau wynebu’r posibilrwydd o golli ar y trydydd diwrnod wrth i’r gŵr o Seland Newydd gipio wyth canfed wiced dosbarth cyntaf ei yrfa.

Gwrthsefyll y pwysau – am gyfnod

Pan ddaeth Kiran Carlson a David Lloyd ynghyd, dechreuodd Morgannwg daro ergydion i’r ffin oddi ar y bowlwyr cyflym er mwyn cynnig llygedyn o obaith yn erbyn y pwysau roedd y troellwr Jeetan Patel wedi’i roi arnyn nhw o’r pen arall.

Ond fe gollon nhw ddwy wiced mewn pelawdau olynol i’w gadael yn 144 am bump erbyn amser te, ar ei hôl hi o hyd o 156 o rediadau.

Roedd Kiran Carlson a David Lloyd wedi ychwanegu 56 pan gafodd Lloyd ei ddal gan Chris Wright wrth iddo yrru i’r ochr agored oddi ar fowlio Patel am 26, a Morgannwg yn 137 am bedair. Ac fe ddilynodd Kiran Carlson yn fuan wedyn, wrth i Patel daro’i goes o flaen y wiced am 49, a’r Cymry’n 144 am bump.

…ond wicedi’n cwympo eto

Daeth Graham Wagg i’r llain ar ôl te ac yn y belawd gyntaf, tynnodd e belen gan Jeetan Patel am chwech wrth ddangos i’w gyd-fatwyr sut mae curo’r troellwr. Ond buan y cipiodd y bowliwr wiced, wrth i Chris Cooke gael ei ddal yn y slip gan Jonathan Trott am 12, a Morgannwg yn 169 am chwech.

Un rhediad yn ddiweddarach, cafodd Graham Wagg ei ddal gan Will Rhodes am saith wrth yrru’r troellwr Jeetan Patel, a gipiodd ei bumed wiced yn y batiad, a’r sgôr yn 170 am saith.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 182, pan gafodd Craig Meschede ei ddal gan y wicedwr Tim Ambrose oddi ar fowlio Chris Wright am saith wrth geisio amddiffyn pelen uchel yn erbyn ei gorff.

202 oedd y sgôr wrth i’r nawfed wiced gwympo, ac Andrew Salter wedi’i ddal gan Will Rhodes am wyth wrth dynnu oddi ar y troellwr Jeetan Patel, a gipiodd ei chweched wiced yn y batiad.

Un frwydr olaf

Brwydrodd y pâr olaf, y capten Michael Hogan a Ruaidhri Smith yn galed am 6.2 o belawdau wrth daro ergydion i’r ffin oddi ar y bowlwyr cyflym wrth i’r gêm dynnu tua’i therfyn.  Ychwanegon nhw 62 wrth i Ruaidhri Smith daro 52 heb fod allan oddi ar 40 o belenni, gan gynnwys 10 pedwar ac un chwech.

Tarodd Michael Hogan 28 cyn cael ei fowlio gan Jeetan Patel, a gipiodd ei seithfed wiced yn y gêm am 83.