Brwydrodd tîm criced Morgannwg yn ôl ar ôl dechrau siomedig ar ddiwrnod cyntaf eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Llandrillo yn Rhos.Ar ddiwedd y diwrnod cynta’, roedd Swydd Warwick yn 116 am dair wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 203.
Tarodd chwaraewr amryddawn Morgannwg, Craig Meschede 53 heb fod allan i achub y Cymry cyn colli ei holl bartneriaid wrth io’r batiad ddod i ben.
Mae Ian Bell wrth y llain i’r ymwelwyr ar ddechrau’r ail ddiwrnod, ac yntau heb fod allan ar 43.
Un allan ar ôl y llall
Fe ddechreuodd Morgannwg golli wicedi’n gyflym o’r dechrau’n deg.
Cafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr Tim Ambrose – y cynta’ o’i dri daliad – oddi ar fowlio Keith Barker heb sgorio, a Morgannwg yn 10 am un ar ôl pedair pelawd a hanner.
Roedden nhw’n 28 am ddwy yn y ddegfed pelawd pan gipiodd y wicedwr ei ail ddaliad oddi ar fowlio Ryan Sidebottom i waredu Jack Murphy am 18, ac yn 38 am dair wrth i’r wicedwr sicrhau ei drydydd oddi ar fowlio Ollie Stone a Connor Brown yn mynd am bedwar.
Tarodd Kiran Carlson 32 cyn cael ei fowlio gan y troellwr a’r capten Jeetan Patel, a Morgannwg bellach yn 80 am bedair.
Y gogleddwr David Lloyd oedd y pumed batiwr allan pan gafodd ei ddal gan Ian Bell oddi ar fowlio Keith Barker am 19, a Morgannwg yn 113 am bump ar ôl llai na 35 pelawd.
Graham Wagg – sydd yn chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf ers dros flwyddyn – oedd nesa’ – roeddallan am dri wrth i’w dîm lithro i 118 am chwech.
Partneriaeth dda – ond wicedi’n cwympo o hyd
Tarodd Chris Cooke 31 mewn partneriaeth o 24 gyda Craig Meschede. Ond fe gafodd ei fowlio gan Ollie Stone gyda’r sgôr yn 142..
Adeiladodd Craig Meschede ac Andrew Salter bartneriaeth o 20 cyn i Salter gael ei fowlio gan Ollie Stone, a’r Cymry’n 162 am wyth. Ruaidhri Smith oedd y nawfed batiwr allan, wedi’i ddal gan Ian Bell ac Ollie Stone yn cael ei bedwaredd wiced.
Daeth y batiad i ben pan gafodd Michael Hogan ei fowlio gan Jeetan Patel a gipiodd ei drydedd wiced am 23, a Morgannwg i gyd allan am 203.
Ymateb y Saeson
Dim ond10.1 pelawd gymerodd hi i Forgannwg gipio wiced gyntaf Swydd Warwick, wrth i Craig Meschede daro coes Dominic Sibley o flaen y wiced am saith, a’r Saeson yn 23 am un.
Dilynodd Will Rhodes dair pelawd yn ddiweddarach, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg am 24, a’r Saeson bellach yn 43 am ddwy yn y bedwaredd pelawd ar ddeg.
Adeiladodd Ian Bell a Jonathan Trott bartneriaeth o 63 am y drydedd wiced cyn i Trott gael ei ddal gan Nick Selman oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am 28, a’r Saeson yn 106 am dair.
Chris Wright, y noswyliwr fydd yn cadw cwmni i Ian Bell ar ddechrau’r ail ddiwrnod.