Mae Morgannwg wedi curo Essex mewn gêm ugain pelawd am y tro cyntaf erioed yng Nghaerdydd – a hynny o chwech rhediad.

Mae’n golygu bod Morgannwg yn drydydd yn y tabl, ac yn cadw eu gobeithion o gyrraedd yr wyth olaf yn fyw.

Sgoriodd Morgannwg 198 am saith yn eu batiad, diolch i’r capten Colin Ingram, a darodd 89 oddi ar 47 o belenni.

Roedd tair wiced am 61 i fowliwr cyflym Essex, Matt Quinn.

Wrth ymateb, sgoriodd Varun Chopra 54 ac roedd Ravi Bopara heb fod allan ar 45, wrth i Timm van der Gugten gipio dwy wiced am 33.

Cyfnod clatsio

Cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib ar ôl cael eu gwahodd i fatio, wrth i Matt Quinn gipio dwy wiced yn ei belawd gyntaf – ail belawd yr ornest. Cafodd Craig Meschede ei ddal gan Peter Siddle cyn i Aneurin Donald gael ei ddal gan Simon Harmer, a’r sgôr yn wyth am ddwy.

Ond fe ddaeth adfywiad ar ffurf y capten Colin Ingram, a darodd chwech a phedwar oddi ar y bedwaredd belawd gan y troellwr coes o Awstralia, Adam Zampa, ac ailadrodd y gamp oddi ar belawd ganlynol yr Awstraliad arall, Peter Siddle i gyrraedd 41 am ddwy.

Roedd pelawd ola’r cyfnod clatsio’n un sylweddol i Forgannwg, wrth i Colin Ingram gyrraedd 54 heb fod allan oddi ar 21 o belenni ar ôl taro 4-4-4-6-4-6 oddi ar chwe phelen gyfreithlon gan Peter Siddle, a Morgannwg yn 71 am ddwy.

Colli wicedi’n gyflym

Cwympodd trydedd wiced ar ôl naw pelawd i ddod â phartneriaeth o 85 mewn saith pelawd i ben. Cafodd Kiran Carlson ei ddal gan Peter Siddle oddi ar fowlio Simon Harmer am 11, a’r sgôr erbyn hynny’n 93 am dair.

Cwympodd dwy wiced nesaf Morgannwg oddi ar ddwy belen yn olynol gan Ravi Bopara a’r sgôr yn 113, wrth i Chris Cooke gael ei ddal gan Ashar Zaidi am bedwar, cyn i’r bowliwr daro coes Nick Selman o flaen y wiced.

Collodd Morgannwg fomentwm wedi hynny wrth i’r capten orfod rhoi’r gorau i glatsio er mwyn sefydlogi’r batiad.

Ac fe gafodd ei ddal yn y bymthegfed pelawd wrth fachu pelen oddi ar fowlio Peter Siddle i gyfeiriad Ravi Bopara. Roedd e allan am 89 oddi ar 47 pelen, a’i fatiad yn cynnwys naw pedwar a phum chwech. Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 125 am chwech.

Cwympodd y seithfed wiced ar ddechrau’r ail belawd ar bymtheg, pan darodd Andrew Salter ergyd ddwl i’r awyr a chael ei ddal gan Adam Wheater oddi ar fowlio Matt Quinn am bedwar.

Taro’n ôl

Cymerodd hi tan y ddeunawfed belawd i unrhyw fatiwr ac eithrio Colin Ingram ddarganfod y ffin, wrth i Ruaidhri Smith daro dau bedwar ac un chwech yn olynol oddi ar fowlio Ravi Bopara.

Yn y belawd olaf ond un, cafodd Matt Quinn ei daro am ddau chwech a thri phedwar gan Graham Wagg wrth i Forgannwg gyrraedd 181 am saith, a’r batiwr heb fod allan ar 43 oddi ar 25 o belenni ar ddechrau’r belawd olaf.

Tarodd Ruaidhri Smith chwech oddi ar ail belen y belawd olaf gan Peter Siddle wrth i’r batwyr gyrraedd partneriaeth o hanner cant.

Ychwanegodd Graham Wagg wyth at y cyfanswm i orffen heb fod allan ar 53 oddi ar 28 o belenni, a Ruaidhri Smith heb fod allan ar 22. Roedd Morgannwg yn 198 am saith.

Dechrau cryf i Essex – ond colli tir

Dechreuodd Essex gwrso’n gryf wrth i Adam Wheater daro dau bedwar a chwech, ond fe gafodd ei ddal am 20 ar ôl 2.5 pelawd wrth fachu at Kiran Carlson oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, a’r sgôr yn 29 am un.

Llwyddodd Paul Walter a Varun Chopra i arwain eu tîm i 61 am un erbyn diwedd y cyfnod clatsio – deg rhediad yn llai na Morgannwg ar yr un adeg.

Ond cipiodd Morgannwg eu hail wiced un belen yn ddiweddarach, pan gafodd Paul Walter ei ddal gan Kiran Carlson oddi ar fowlio Craig Meschede am 12, a’r ymwelwyr yn 61 am ddwy.

Wicedi allweddol i’r Cymry

Parhau i frwydro wnaeth Essex, wrth gyrraedd 89 am ddwy erbyn hanner ffordd trwy’r batiad. Roedden nhw ar ei hôl hi o 12 rhediad ar yr adeg honno o’i gymharu â Morgannwg, ond wedi colli un wiced yn llai.

Daeth hanner canred Varun Chopra oddi ar 35 o belenni yn ystod y drydedd belawd ar ddeg, ac Essex erbyn diwedd y belawd honno’n 122 am ddwy. Roedd angen 77 rhediad, felly, oddi ar wyth belawd ola’r batiad.

Daeth wiced fawr i Forgannwg pan gafodd capten yr ymwelwyr, Ryan ten Doeschate ei fowlio gan gapten y Cymry, Colin Ingram am 28 yn y bedwaredd belawd ar ddeg, a’r sgôr yn 123 am dair. Roedd ei bartneriaeth gyda Varun Chopra yn werth 62.

Ac fe ddilynodd Varun Chopra yn fuan wedyn am 54, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten, a’r sgôr yn 129 am bedair ar ddiwedd y bymthegfed pelawd.

Roedd angen 70, felly, oddi ar 30 o belenni, ac fe ddaeth 14 ohonyn nhw yn yr unfed belawd ar bymtheg oddi ar fowlio Colin Ingram.

Ond cafodd Ashar Zaidi ei ddal gan Ruaidhri Smith oddi ar fowlio Timm van der Gugten am saith ar ddiwedd yr ail belawd ar bymtheg, a’r sgôr yn 151 am bump.

Diweddglo cyffrous

32 oedd y nod i Essex oddi ar ddwy belawd ola’r gêm ar ôl sgorio 16 rhediad yr ail belawd ar bymtheg.

Daeth chweched wiced i Forgannwg yn y belawd olaf ond un, wrth i Simon Harmer dorri i gyfeiriad Timm van der Gugten oddi ar fowlio Graham Wagg am 15, a’r sgôr yn 175 am chwech.

24 oddi ar chwe phelen oedd y nod, felly, ac fe ddechreuodd Ravi Bopara gyda dau bedwar oddi ar Michael Hogan. Tarodd e chwech oddi ar y bedwaredd belen i adael wyth rhediad yn weddill oddi ar ddwy belen.

Ond roedd yn ormod i’r ymwelwyr yn y pen draw, wrth i Forgannwg ennill o chwech rhediad.